Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn galw ar bob oedolyn cymwys i fanteisio ar y cyfle i gael y brechlynnau ffliw a COVID-19 i geisio lleddfu'r straen ar y GIG

Menyw mewn côt a menig yn dal diod boeth, gyda golau llachar o

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn galw ar holl drigolion y sir sydd yn gymwys am y brechlyn Ffliw a/neu frechlyn COVID-19 i fanteisio ar y cyfle ar unwaith.

Dywedodd Mererid ‘Mezz’ Bowley, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd: “Wrth i gyfraddau haint y ffliw a COVID-19 gynyddu, rydw i’n apelio at bob unigolyn cymwys i sicrhau bod ei frechlynnau yn gyfredol. Mae’r GIG yn wynebu pwysau sylweddol a pharhaus, felly mae’n rhaid i ni gyd gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi treulio cyfnodau diangen yn yr ysbyty.

“Mae’r ffliw a COVID-19 yn heintiau difrifol sy’n gallu arwain at salwch difrifol, cymhlethdodau o ganlyniad i’r salwch a hyd yn oed marwolaeth. Mae cleifion ar draws Cymru yn cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd y ddau haint, ond gall effeithiau’r afiechydon hyn cael eu lleihau neu eu hosgoi’n gyfan gwbl trwy frechu.

“Dydy hi ddim yn rhy hwyr i’n helpu. Mae llawer o’n Meddygfeydd a Fferyllfeydd Cymunedol yn parhau i gynnig y brechlyn ffliw i’w cymunedau. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnal Canolfannau Brechu Torfol COVID-19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys ac mae'n ymestyn y gwasanaeth hefyd i gynnig brechiadau ffliw o 9 Ionawr ymlaen. Yn y cyfamser, am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/ a dilynwch y dolenni ar frechlynnau COVID-19 a’r ffliw.”

Mae data monitro diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod lefelau haint feirysau anadlol yn parhau i fod yn sylweddol. Yng Nghymru dros y 90 diwrnod diwethaf bu bron i 800 o gleifion mewnol mewn ysbytai gyda haint y ffliw, a dros 40 o gleifion mewn gwelyau gofal critigol. Dros yr un cyfnod, nodwyd bod gan bron i 300 o gleifion mewnol mewn ysbytai yng Nghymru haint RSV. Mae'r data ar gyfer heintiau COVID-19 yn dangos bod mwy na 400 o bobl yn yr ysbyty wedi’u cofnodi â COVID-19 yng Nghymru dros y cyfnod adrodd o saith diwrnod diwethaf.

Mae Mezz Bowley yn esbonio: "Yn aml, nid yw pobl yn sylweddoli difrifoldeb haint y ffliw, ond mae'n gallu bod yn ddifrifol iawn. Mae’r ffliw yn peri perygl mwyaf i’r rhai sy'n hŷn neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i gymhlethdodau o ganlyniad i'r ffliw.

"Ar ôl cyfnod o gymdeithasu gyda'n ffrindiau a'n hanwyliaid dros yr Ŵyl, bydd llawer ohonom nawr yn dychwelyd i'r gwaith. Helpwch i amddiffyn eich hunain a'r rhai sydd fwyaf bregus drwy gael eich brechu. Dyma'r ffordd orau o amddiffyn cymaint o bobl â phosib rhag datblygu salwch anadlol difrifol y gaeaf hwn."

I helpu atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch ‘Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa.’


Gall feirysau anadlol fel COVID-19 a’r ffliw arwain at risg o salwch difrifol i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Y gaeaf hwn, gall pob un ohonom chwarae ein rhan i helpu i ddiogelu’r rheini sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Rydym i gyd bellach yn gyfarwydd â chymryd mesurau diogelu i gadw ein gilydd yn ddiogel. Drwy gymryd camau syml, bob dydd, gallwn helpu i leihau effaith tonnau o haint COVID-19 yn y dyfodol a helpu i leihau lledaeniad heintiau anadlol fel y ffliw.

  • Cael eich brechlyn COVID-19 a'ch brechlyn ffliw
  • Aros gartref os ydych chi’n sâl a chyfyngu ar eich cysylltiad ag eraill
  • Golchi neu ddiheintio’ch dwylo yn aml
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau gorlawn dan do neu fannau caeëdig, gan gynnwys lleoliadau iechyd a gofal
  • Cyfarfod eraill yn yr awyr agored os yw’n bosibl

 

Rhannu:
Cyswllt: