Neidio i'r prif gynnwy

Y Drenewydd: Ardal yng Nghymru sydd â chyfraddau uchel o COVID

Mae trigolion y Drenewydd yn cael eu hannog i gael profion COVID gan fod y dref â chyfraddau uchel o COVID. Yn y Drenewydd mae cyfraddau heintio COVID wedi codi i dros 1,000 fesul 100,000 dros y saith diwrnod diwethaf, yn bennaf yn y grŵp oedran dan 40 oed.

Mae llawer o bobl yn gallu cario COVID heb arddangos unrhyw symptomau ac mae hyn yn golygu y gallant heintio eraill heb hyd yn oed sylweddoli. Mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gofyn i bawb gael prawf, p'un a oes ganddynt symptomau ai peidio.

Mae amrywiaeth o brofion ar gael yn y Drenewydd;

  • Canolfan brofi PCR ar gyfer y rhai sydd â symptomau – ffoniwch 119 neu archebwch ar-lein www.gov.uk/get-coronavirus-test
  • Canolfan brofi LFD i'r rhai heb symptomau – nid oes angen apwyntiad, dewch draw rhwng 11:30-5:30 i Ganolfan Ddydd Stryd y Parc, ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
  • Pwyntiau casglu LFD i bobl gasglu pecynnau profi i'w defnyddio gartref – Fferyllfa Boots, Fferyllfa Lloyds, Fferyllfa Morrisons yn y Drenewydd yn ogystal â fferyllfeydd a llyfrgelloedd ledled Powys.

Gyda phrofion yn gyflymach ac yn fwy ar gael nag erioed o'r blaen, nid oes rheswm dros beidio â chael profion rheolaidd i helpu i gadw eich hun, eich ffrindiau a'ch teulu a'ch cymuned yn ddiogel. Wrth i gyfyngiadau ddechrau codi ledled y DU ac wrth i ysgolion cychwyn gwyliau ar ddiwedd yr wythnos mae'n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan i sicrhau bod pawb yn cael haf diogel.

Rhannu:
Cyswllt: