Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau ysbyty yng Ngheredigion neu Sir Gaerfyrddin?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i gleifion  i helpu i lywio gwasanaethau’r dyfodol ymhellach, trwy gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu dros gyfnod o chwe wythnos.

Ers cyhoeddi ei strategaeth, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda yn 2018, mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda phartneriaid i ddarparu gofal a datblygu gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae pandemig coronafeirws wedi cael effaith mawr ar wasanaethau iechyd a gofal. O ganlyniad, mae’r Bwrdd Iechyd am ddysgu gan y cyhoedd sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a’u mynediad at y gwasanaethau hyn.

Mae BIP Hywel Dda hefyd yn gofyn am adborth y cyhoedd mewn perthynas â’i strategaeth hirdymor i ddatblygu ac adeiladu ysbyty newydd yn ne ardal Hywel Dda, rhywle rhwng ac yn cynnwys Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin ac Arberth yn Sir Benfro. Penderfynwyd ar y lleoliad hwn drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2018.

Bydd yr ymarfer ymgysylltu yn para o ddydd Llun 10 Mai tan ddydd Llun 21 Mehefin 2021.

Am wybodaeth bellach:

Ewch i:  www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk  

Anfonwch ebost at: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk;

Ffoniwch:  01554 899 056 (gadewch neges a byddwn yn eich ffonio nôl fel nad oes yn rhaid i chi dalu am yr alwad)

Rhannu:
Cyswllt: