Cofiwch y Cam N.E.S.A. Ffoniwch 999 os byddwch yn gweld unrhyw un o'r arwyddion o strôc
Mae tua 100,000 o achosion o strôc yng Nghymru, Lloegr a'r Alban bob blwyddyn. Strôc yw pedwerydd achos arweiniol unigol marwolaeth yn y DU a'r achos unigol mwyaf o anabledd cymhleth.
Mae'r acronym N.E.S.A (Nam ar yr wyneb, Estyn, Siarad, Amser) yn ffordd gofiadwy o nodi arwyddion mwyaf cyffredin strôc ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd gweithredu'n gyflym drwy ffonio 999.
Pan fydd rhywun yn cael strôc, cofiwch y cam nesa.
Nam ar yr wyneb. A yw’r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw’n gallu gwenu?
Estyn. Ydyn nhw’n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a’u cadw yno?
Siarad. Ydyn nhw’n cael trafferth siarad?
Amser. Mae ymateb yn amserol yn hollbwysig. Ffoniwch 999 os ydych chi’n gweld un o’r symptomau uchod
I roi’r cyfle gorau i rywun, gweithredwch yn gyflym.
Dysgwch ragor am strôc ar wefan GIG 111 Cymru.
Rhyddhawyd: 27/04/2023