Mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio dau Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais erbyn 27 Medi 2024 ar wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru .
Neges gan Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru
Diolch ichi am ddangos diddordeb yn swydd Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys
I gyd, rydym yn bwriadu recriwtio 2 Aelod Annibynnol:
Nawr yn fwy nag erioed, mae cyfraniad ein penodeion cyhoeddus yn hanfodol o ran sicrhau bwrdd iechyd gwell sy'n cefnogi'r holl aelodau o staff i gyflawni eu potensial llawn.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon ac yr hoffech wybod mwy am rôl bwysig yr Aelodau Annibynnol, cysylltwch â Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Bydd ef yn fwy na pharod i drafod y rôl hon â chi ar fy rhan.
Neges gan Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Mae eich diddordeb mewn gwasanaethu fel Aelod Annibynnol o'n Bwrdd yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Gan adlewyrchu ein hymrwymiad i amrywiaeth bwrdd, croesewir ceisiadau gan grwpiau poblogaeth sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.
Fel Bwrdd Iechyd mawr, gwledig iawn, mae Powys yn cyflwyno cyfleoedd a heriau penodol. Mae hyn yn gwneud aelodaeth y Bwrdd yn arbennig o ddiddorol, ysgogol a phleserus.
Rydym yn awyddus i benodi rhywun sydd â'r sgiliau angenrheidiol, ond hefyd rhywun sy'n ymgorffori gwerthoedd a diwylliant ein sefydliad. Rydym yn Fwrdd unedol, sy'n cynnwys aelodau gweithredol ac annibynnol. Bydd ein cydweithiwr bwrdd newydd yn helpu i wella cydlyniant tîm ymhellach ac effeithiolrwydd ein llywodraethiant.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â ni. Pob dymuniad da gyda'ch cais