Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn gofyn i gyflogwyr Powys gefnogi staff i gael y brechlyn COVID

Mae'r wythnos hon wedi gweld nifer digynsail o bobl yn derbyn eu brechlynnau COVID ym Mhowys. Yn dilyn 12 mis o ddarpariaeth gynyddol, mae'r bwrdd iechyd yn ceisio cael pob un person cymwys ym Mhowys i dderbyn eu brechiadau erbyn y flwyddyn newydd.

I helpu gyda hyn rydym yn gofyn i gyflogwyr ledled y sir i annog eu staff i gael y brechlyn a’u cefnogi nhw trwy gynnig amser i ffwrdd o’r gwaith lle bo’n briodol i fynychu canolfan frechu.

Mae eu hannog i gael eu brechu er eich budd chi yn ogystal â bod yn fuddiol iawn iddyn nhw. Gall caniatáu ychydig o amser i'ch staff i ffwrdd o’r gwaith er mwyn cael y brechlyn, arbed llawer o amser o'i gymharu ag amser i ffwrdd o'r gwaith yn sâl.

Rydym yn cynnal clinigau brechu ychwanegol ac rydym bellach ar agor saith diwrnod yr wythnos, a gall pobl drefnu eu hapwyntiadau eu hunain ar-lein drwy ein gwefan yma.

Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau rhag Covid-19. Dyma'r ffordd orau o'ch diogelu eich hun a'r rhai o'ch cwmpas rhag y feirws. Ymunwch â’r miliynau o bobl sydd wedi cael eu brechu yn barod.

Dyma’r rhaglen frechu fwyaf yn hanes y GIG ac mae wedi achub miloedd o fywydau yn barod.

Mae’r bobl sydd wedi cael y brechlyn yn llai tebygol o brofi symptomau Covid-19. Maen nhw hyd yn oed yn fwy annhebygol o fynd yn sâl iawn, o fynd i'r ysbyty neu i farw ohono. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod pobl sydd wedi'u brechu hefyd yn llai tebygol o drosglwyddo'r feirws i eraill.

Rhannu:
Cyswllt: