Neidio i'r prif gynnwy

"Cael Prawf i Atal y Lledaeniad" yw neges y Gweinidog yng nghanolfan profi COVID-19 Y Drenewydd

Bu Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ymweld â'r Drenewydd yr wythnos hon yn ei hymrwymiad swyddogol cyntaf yn y sir ers cymryd ei rôl newydd.

Aeth y Gweinidog i ymweld â'r ganolfan brofi asymptomatig yn y Drenewydd i gwrdd â chydweithwyr o Gyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sydd wedi bod yn arwain dull partneriaeth y sir o Brofi Olrhain Diogelu.

Mae'r ganolfan yn darparu profion llif unffordd COVID-19 cyflym taro heibio am ddim i bobl heb symptomau rhwng 10am i 6pm bob dydd tan 4 Gorffennaf.  Ei nod yw helpu'r GIG lleol a'r awdurdod lleol i ddeall mwy am ledaeniad amrywiolion newydd, gan gynnwys amrywiolyn Delta, a bod yn fwy parod ar gyfer tonnau o’r coronafeirws yn y dyfodol.

Croesawodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys, y Gweinidog i'r ganolfan ar Stryd y Parc yn y Drenewydd: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ymweld â'r cyfleuster a chwrdd â'n staff gweithgar yn y rhaglen Profi Olrhain Diogelu ym Mhowys. Rydym yn falch o'r gwaith partneriaeth lleol i ddatblygu a chyflwyno Profi Olrhain Diogelu yn y sir, ac am gefnogaeth pobl a chymunedau a’r camau y maen nhw’n para i'w cymryd i Gadw Powys yn Ddiogel."

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r system Profi, Olrhain, Amddiffyn yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus diolch i’r bartneriaeth gref rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, a gwaith anhygoel eu staff lle mae eu gwybodaeth o’u cymunedau wedi bod yn allweddol yn ei lwyddiant.  Roedd heddiw’n gyfle gwych i siarad yn uniongyrchol â’r rheiny sy’n gweithio ar y rhaglen ym Mhowys.  Gwelais hefyd waith anhygoel tîm profi y Drenewydd a sut y maen nhw’n Cadw Cymru yn Ddiogel.  Mae profi’n parhau i fod yn arf hanfodol i fynd i’r afael â’r firws, mae tua un ym mhob tri o bobl sy’n profi’n bositif am Covid-19 heb unrhyw symptomau ond gallant ddal i heintio eraill.  Yn anffodus, nid yw’r firws wedi mynd i ffwrdd a chydag amrywiolion newydd fel amrywiolyn Delta yn ymddangos, rwy’n annog pobl i gael prawf er mwyn atal ei lledaeniad.”

Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Gall unrhyw un ddal coronafeirws a gall unrhyw un ei ledaenu, a dyna pam ei bod mor bwysig cael prawf pan fyddwch yn dangos symptomau neu pan fyddwch yn cael eich cynghori i gael prawf, ac i ddefnyddio prawf llif unffordd pan nad oes gennych symptomau.

"Gydag achosion Delta ar gynnydd, gan gynnwys ym Mhowys, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cymryd camau i atal y lledaeniad, ac un o’r camau hynny yw cael prawf.  Heddiw cawsom gyfle i rannu gwaith caled ein staff i gynnig profion, olrhain cysylltiadau, ac amddiffyn pobl Powys yn uniongyrchol â'r Gweinidog."

Mae'r ganolfan brofi yn bartneriaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda’u staff yn rhannu eu sgiliau a'u profiad fel y gall ein staff Profi Olrhain Diogelu ym Mhowys sefydlu canolfan brofi yn gyflym yn y sir pan fo angen.

Dywedodd Paul Cassidy, Pennaeth Gwasanaeth Unedau Profi Symudol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda phartneriaid yn y Safle Profi Asymptomatig yn y Drenewydd, ac rydym yn croesawu'r cyfle i ddarparu hyfforddiant i gydweithwyr fel eu bod yn gallu rhedeg canolfannau profi asymptomatig yn ôl yr angen yn y dyfodol."

Mae rhagor o wybodaeth am y ganolfan profi gyflym COVID-19 yn y Drenewydd ar gael o Canolfan profi cyflym COVID-19 i bobl heb symptomau yn dod i’r Drenewydd yn ystod mis Mehefin – Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (nhs.cymru)

Mae rhagor o wybodaeth am Brofi Olrhain Diogelu ym Mhowys ar gael yma https://biap.gig.cymru/yma/pod

Mae rhagor o wybodaeth am brofi ar draws Cymraeg ar gael o wefan Llywodraeth Cymru: Cael prawf coronafeirws (COVID-19) | LLYW.CYMRU

 

Rhannu:
Cyswllt: