Mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gyffuriau neu alcohol ym Mhowys nawr yn gallu cael gafael ar gymorth y GIG ar-lein drwy therapi digidol SilverCloud®.
Mae SilverCloud gan Amwell® yn wasanaeth therapi digidol ar-lein sy’n rhad ac am ddim trwy GIG Cymru yn cynnig ystod o raglenni hunangymorth i helpu pobl rheoli eu hiechyd meddwl a'u lles.
Mae'r rhaglenni diweddaraf sydd ar gael drwy'r gwasanaeth, Gofod rhag Alcohol a Gofod rhag Defnyddio Cyffuriau, yn gallu helpu unigolion sy'n pryderu am ddefnydd alcohol neu gyffuriau ysgafn i gymedrol, archwilio eu perthynas â sylweddau ac i wneud dewisiadau gwybodus sy’n siwtio nhw.
Yn 2021 yn unig, dywedodd un o bob chwe oedolyn yng Nghymru eu bod wedi yfed mwy na'r canllaw risg isel a argymhellir, sef 14 uned yr wythnos¹. Yn yr un flwyddyn, amcangyfrifir bod tua 1 o bob 11 person yn defnyddio cyffur fel canabis neu gocên².
Gall fod yn anodd gofyn am gymorth gydag alcohol a chyffuriau; mae llawer o bobl yn poeni am gymryd y cam cyntaf. Gall offer digidol helpu chwalu rhwystrau drwy gefnogi pobl i gael cymorth ar gyfer eu pryderon yn gynnar, mewn ffordd sy'n siwtio eu bywyd nhw.
Mae gwasanaeth SilverCloud®, darparwr blaenllaw o gefnogaeth ddigidol a brofwyd yn glinigol yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) a Therapi Gwella Cymhelliant (MET), yn cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar ran GIG Cymru, mewn partneriaeth ag Amwell®, llwyfan galluogi iechyd digidol.
Gellir cyrchu rhaglenni therapi SilverCloud® sy’n cymryd 12 wythnos ar-lein neu drwy ap SilverCloud - heb angen atgyfeiriad gan Feddyg Teulu - o unrhyw ffôn symudol, llechen neu liniadur; maen nhw hefyd yn gefnogol, yn gyfrinachol ac yn ddi-farn.
Mae Bert Roex, Cydlynydd rhaglenni Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Ar-lein SilverCloud yng Nghymru yn esbonio mwy:
"Ar ôl tymor prysur yr ŵyl, mae'r flwyddyn newydd yn gyfnod lle mae llawer o bobl yn myfyrio ar eu bywydau, yn ystyried unrhyw newidiadau yr hoffen nhw eu gwneud a gosod nodau'r dyfodol. Un o'r pethau hynny efallai yw edrych ar eich defnydd o alcohol neu ddefnydd o gyffuriau.
"Os ydych chi'n ystyried gwneud rhai newidiadau ond ddim yn siŵr ble i ddechrau, neu os ydych chi eisiau deall effaith eich yfed a defnydd o sylweddau, gall rhaglenni alcohol a chyffuriau SilverCloud® eich helpu cymryd y cam cyntaf a gwneud newidiadau os, neu pryd, rydych chi'n barod.
"Mae gan y rhaglenni lawer o fanylion defnyddiol, offer a gwybodaeth ymarferol i gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau ymarferol a gwneud dewisiadau gwybodus. Wedi i chi gofrestru ar gyfer rhaglen, gallwch ei gyrchu ar-lein unrhyw bryd ac rydych yn rhydd i weithio drwyddo ar gyflymder sy’n siwtio chi.
Byddwch yn cael eich cefnogi hefyd; mae pob cleient yn cael ei ddyrannu i Gefnogwr SilverCloud® - sy’n weithiwr proffesiynol y GIG yn arbenigo mewn CBT digidol - sy'n eich tywys drwy'r rhaglen ac yn darparu adborth ar-lein rheolaidd."
Mae Bert yn parhau trwy ddweud, "Mae'n bwysig gwneud pobl yn ymwybodol bod gwasanaethau SilverCloud® yn hunangymorth dan arweiniad i bobl sydd angen lefel is o gefnogaeth gyda'u defnydd o sylweddau. Os ydych chi neu anwylyn mewn argyfwng, gofynnwch am gefnogaeth ar unwaith gan wasanaeth argyfwng (Samariaid, C.A.L.L) neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol."
Ar gyfer y canlyniadau gorau cynghorir cleientiaid i ymgysylltu â'r gwasanaeth 3-4 gwaith yr wythnos am 15-30 munud bob tro.
Mae gwasanaeth iechyd meddwl ar-lein SilverCloud® yng Nghymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi helpu dros 33,000 o bobl rheoli eu hiechyd meddwl a'u lles ers lansio mewn ymateb i'r pandemig yn 2020.
Dysgwch fwy: https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-meddwl-oedolion-a-phobl-hyn/tyg-ar-lein-silvercloud/
Cofrestrwch: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/SilvercloudW
Dilynwch ni ar Facebook: https://www.facebook.com/SilverCloudWales