Rydym yn gweld nifer sylweddol o achosion o'r ffliw yn ein cymunedau ac mae derbyniadau i ysbytai ledled Cymru yn cynyddu.
Os ydych chi'n gymwys i gael y brechlyn ffliw, diogelwch eich hun a'r rhai o'ch cwmpas trwy gysylltu â'ch meddygfa neu fferyllfa gymunedol leol i wneud apwyntiad. Ffoniwch ymlaen llaw i sicrhau bod brechiad ffliw ar gael.
Mae manylion cyswllt Meddyg Teulu ar gael yma.
Mae manylion cyswllt y fferyllfa ar gael yma.
Os na allwch fynd i'ch meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol, gall oedolion cymwys hefyd gerdded i mewn i'n canolfannau brechu i dderbyn eich brechlyn ffliw neu COVID. Gallwch ddod o hyd i amseroedd galw heibio sydd i ddod isod:
Dydd Llun 20 Ionawr |
Ysbyty Bronllys |
9.30am-12.30pm & 1.30pm-4.30pm |
Canolfan Ddydd Parc, Y Drenewydd |
11.45am- 2.30pm a 3.30pm-6.30pm |
|
Dydd Mawrth 21 Ionawr |
Glan Irfon, Llanfair ym Muallt |
10.15am-12.15pm & 1.15pm-3.45pm |
Canolfan Ddydd Parc, Y Drenewydd |
9:30am-12:30pm a 1.30pm-4:30pm |
|
Uned Arennol Ysbyty'r Trallwng |
10.15am-12.30pm & 1.30pm-3.30pm |
|
Dydd Mercher 22 Ionawr |
Ysbyty Bronllys |
9.30am-12.30pm & 1.30pm-4.30pm |
Canolfan Ddydd Parc, Y Drenewydd |
9.30am-12.30pm & 1.30pm-4.30pm |
|
Ysbyty Trefyclo |
10.45am-1.00pm & 1.30pm-3.30pm |
|
Dydd Iau 23 Ionawr |
Ysbyty Bronllys |
11.30am- 2.30pm a 3.30pm-6.30pm |
Canolfan Ddydd Parc, Y Drenewydd |
9.30am-12.30pm & 1.30pm-4.30pm |
|
Dydd Gwener 24 Ionawr |
Ysbyty Bronllys |
9.30am-12.30pm & 1.30pm-4.30pm |
Canolfan Ddydd Parc, Y Drenewydd |
9.30am-12.30pm & 1.30pm-4.30pm |
Mae'r gwasanaeth brechu yn cynnig clinigau galw heibio dal i fyny drwy ein canolfannau brechu ar gyfer plant oed ysgol o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 (cynhwysol) yn y clinigau uchod.
Dewch â'ch plentyn i'r sesiynau i dderbyn ei frechlyn ffliw. Bydd angen i riant a/neu warchodwr fod yno hefyd i roi cydsyniad ar gyfer y brechiad.
Bydd y tîm hefyd yn gallu cynnig brechlyn ffliw i unigolion 2 a 3 mlwydd oed ar neu cyn 31 Awst 2024 (gyda dyddiad geni ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ac ar neu cyn 31 Awst 2022) os nad ydynt wedi derbyn hyn gyda'u meddyg teulu eto.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn y brechlyn ffliw, gan gynnwys cymhwysedd ar ein gwefan yma.
Rhyddhawyd: 17/01/2025