Neidio i'r prif gynnwy

Deall symptomau iGAS a'r Dwymyn Goch

Er ein bod yn deall bod rhieni yn debygol o boeni, mae achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau'n brin yng Nghymru, ac mae plant yn wynebu risg isel iawn o ddal y clefyd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae haint streptococol A yn achosi'r dwymyn goch, sydd fel arfer yn salwch ysgafn.

1. Trin Gartref

Os oes gan eich plentyn unrhyw un o’r canlynol:

  • dolur gwddf
  • pen tost / cur pen

Mae symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw yn gyffredin iawn ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig ymhlith plant.

Bydd y rhan fwyaf yn cael feirws tymhorol cyffredin y gellir ei drin drwy sichrau bod y plentyn yn yfed digon a'i drin a pharasetamol .

Gall eich fferyllydd lleol roi cyngor arbenigol a meddyginiaethau dros y cownter. Mae gwybodaeth ddefnyddiol am hunanofal hefyd ar gael o'n hyb Helpwch Ni i'ch Helpu Chi .

2. Cysylltu a GIG 111 Cymru

Os yw'ch plentyn hefyd yn datblygu unrhyw unn o'r canlynol, ffoniwch GIG 111 Cymru neu eich meddyg teulu am cymorth:

  • twymyn
  • cyfog neu chwydu
  • brech fan lliw goch, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r stumog (efallai na fydd gan blant hŷn y frech)

3. Cysylltu a'ch Meddyg Teulu

Os oes gan eich plentyn unrhyw un o’r canlynol, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu gofynnwch am gyngor meddygol ar unwaith:

  • o dan 3 mis oed gyda thymheredd o 38C neu uwch, neu os ydych yn credu bod ganddo dymheredd uchel
  • yn 3 i 6 mis oed gyda thymheredd o 39C neu uwch, neu os ydych yn credu bod ganddo dymheredd uchel
  • os oes ganddo arwyddion eraill o salwch, fel brech, yn ogystal â thymheredd uchel
  • os oes ganddo dymheredd uchel sydd wedi para am 5 diwrnod neu fwy
  • os nad ydynt eisiau bwyta, neu os nad ydynt yn nhw eu hunain ac rydych yn pryderu
  • os oes ganddo dymheredd uchel nad yw'n gostwng gyda pharasetamol
  • os yw wedi dadhydradu – fel cewynnau nad ydynt yn wlyb iawn, llygaid wedi suddo, a dim dagrau pan fydd yn crïo

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan GIG 111 Cymru: 111.wales.nhs.uk/Feverinchildren

 

Cyhoeddwyd: 15/12/2022