Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gan Canolfan Feddygol Caereinion

Hoffai Practis Meddygol Caereinion a’r datblygwr, Assura Plc, ddiolch i’r holl gleifion a thrigolion lleol a fynychodd y digwyddiad ymgynghori cyhoeddus ar 10fed Rhagfyr 2019. Nod y cylchlythyr hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adborth a dderbyniwyd a sut y mae hyn wedi effeithio ar y dyluniad, a rhannu’r cynigion terfynol â chi, cyn dechrau’r broses Cais Cynllunio ffurfiol. 

Cymerodd pedwar ugain o bobl ran yn y digwyddiad, gan gynnwys Cynghorwyr lleol. Bu’r Bwrdd Iechyd Lleol, y Practis a’r tîm dylunio’n casglu’r adborth ynghyd ac yn ei ystyried mewn Gweithdy “Pecyn Cymorth Gwerthuso Dylunio i Gyflawni Rhagoriaeth” (AEDET) fis Ionawr 2020, wedi’i hwyluso gan GIG Cymru (gwelwch y dudalen nesaf i gael y manylion). 

Cafodd y datblygiad arfaethedig sgôr uchel iawn, yn cyflawni 5.87 allan o 6. Fodd bynnag, oherwydd newidiadau diweddar i Fodel Gofal y GIG, dygodd y gweithdy sylw at yr angen am fwy o le ar gyfer gweithgareddau clinigol. O ganlyniad, mae’r adeilad arfaethedig wedi’i helaethu i ychwanegu pedair ystafell ymgynghori ychwanegol, wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y Practis a’r Bwrdd Iechyd. Mae’r lleoedd parcio ar gyfer cleifion hefyd wedi’u cynyddu, gyda 12 bae parcio ychwanegol, sef 3 ar gyfer pob Ystafell Ymgynghori. 

Y llynedd, o ystyried Covid-19, cyhoeddodd GIG Cymru ganllawiau dylunio ychwanegol ar gyfer Safleoedd Meddygon Teulu. Adolygwyd y dyluniad eto a gwnaed rhai newidiadau bach i’r cynigion i gyflwyno nodweddion a fydd yn caniatáu gweithredu’n ddiogel mewn pandemig, gan gynnwys; mwy o fesurau atal haint, mesurau cadw pellter cymdeithasol, llwybrau unffordd, a rhannu ardaloedd yn barthau i ganiatáu ynysu cleifion a allai fod yn heintus a chleifion hynod agored i niwed yn glinigol, er mwyn gallu eu trin yn ddiogel. 

Oherwydd Covid, cafwyd oedi wrth fwrw ymlaen â’r cynllun, ond rydym yn falch o ddweud ein bod nawr mewn sefyllfa i ddechrau’r broses Cais Cynllunio ffurfiol. Caiff y cynigion llawn a’r wybodaeth ategol eu cyhoeddi cyn bo hir ar gyfer ymgynghori cyhoeddus a statudol – bydd y manylion yn dilyn.

Mae’r Practis a’r datblygwr wedi ymrwymo i weithio gyda chleifion a’r gymuned ac rydym yn hapus i dderbyn sylwadau a phryderon ynglŷn ag unrhyw beth i’w wneud â’r cais cynllunio ac, yna, gydol y cyfnod adeiladu a symud i’r cyfleusterau newydd.   Mae’n bosibl cysylltu â Rheolwr y Practis, Chris Roberts, neu Dr Alun Jones-Evans trwy’r Meddygfa Caereinion os oes gan unrhyw un sylwadau neu bryderon.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y dogfennau a ganlyn:

 

Rhannu:
Cyswllt: