Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth iechyd meddwl ar-lein am ddim yn ehangu cyrhaeddiad yn ne Cymru

Merch yn edrych ar wefan SilverCloud ar laptop

Gall pobl yn ne Cymru nawr gael therapi iechyd meddwl ar-lein am ddim drwy system atgyfeirio newydd a sefydlwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM).

Am y tro cyntaf, gall gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a Gwasanaethau Sylfaenol Lleol BIP CTM atgyfeirio cleientiaid at gyfres o raglenni hunangymorth ar-lein dan arweiniad yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT).

BIP CTM - sy'n gwasanaethu Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf - yw'r trydydd bwrdd iechyd i gael mynediad uniongyrchol at atgyfeiriadau i'r gwasanaeth, gyda thimau ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) ac Aneurin Bevan eisoes yn atgyfeirio at y gwasanaeth.

Mae prosesau atgyfeirio drwy ddau fwrdd iechyd arall yng Nghymru ar y trywydd cywir i fynd yn fyw yn ystod y misoedd nesaf.

Dywedodd reolwr y prosiect CBT ar-lein, Fionnuala Clayton, fod y mesur yn anelu at fynd i'r afael â rhestrau aros am gymorth iechyd meddwl, ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i therapïau digidol, a amlinellir yn ei Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles newydd.

Dywedodd hi: "Mae hon yn ymdrech gydweithredol rhwng byrddau iechyd sy'n ymdrechu i gynnig gwasanaeth teg a mynediad cyflymach at gymorth i gleifion ledled Cymru."

Dywedodd Andrew Munkley, therapydd arweiniol Gofal Sylfaenol BIP CTM: "Yma yng Nghwm Taf Morgannwg rydyn ni’n gyffrous iawn am y llwybr atgyfeirio newydd hwn.

"Mae'r galw am therapi sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn uwch nag erioed, ac mae'r opsiwn hwn yn golygu ein bod yn cynyddu'r cynnig yn sylweddol i'n poblogaeth dros nos."

Mae’r gwasanaeth, sydd wedi'i lleoli ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn cael ei bweru gan blatfform iechyd meddwl ar-lein SilverCloud®.

Mae'r rhaglenni rhyngweithiol yn dysgu sgiliau ymdopi ymarferol ar gyfer materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol a gellir eu cyrchu ar-lein unrhyw bryd, unrhyw le trwy unrhyw ddyfais symudol, llechen, gliniadur neu ddyfais bwrdd gwaith.

Gall unrhyw un yng Nghymru 16+ oed atgyfeirio at y gwasanaeth am ddim heb weld meddyg teulu neu ymuno â rhestrau aros. 

Fodd bynnag, eglurodd Andrew fod atgyfeiriad drwy weithiwr proffesiynol yn golygu y byddai bellach yn cyrraedd unigolion nad ydynt efallai wedi gallu cael mynediad ato yn y gorffennol trwy hunatgyfeiriad. 

Mae'r broses hunanatgyfeirio yn cynnwys cyfres o holiaduron a ddefnyddir i nodi difrifoldeb symptomau unigolion.

"Efallai eu bod wedi sgorio ychydig yn rhy uchel i gael mynediad at SilverCloud - sydd wedi'i gynllunio ar gyfer symptomau ysgafn i gymedrol - felly mae hyn yn cynnig cyfle i gyrchu’r gwasanaeth gyda'r rhwyd ddiogelwch ychwanegol o gefnogaeth leol os oes ei angen," eglurodd.

"Yn ychwanegol i hyn, weithiau mae angen ychydig o help ychwanegol ar bobl i gyrchu’r platfform os ydyn nhw'n teimlo’n llethol neu'n orbryderus am ymgysylltu â gwasanaethau."

Darperir cefnogaeth drwy'r rhaglenni 12 wythnos, ond gall defnyddwyr y gwasanaeth weithio trwyddynt ar drywydd sy’n gyfleus iddyn nhw a chyrchu deunydd ac ymarferion hyd yn oed ar ôl cwblhau’r cyrsiau. Caiff cynnydd ei fonitro gan ymarferwyr hyfforddedig, sy'n darparu adborth bob pythefnos ac yn gallu uwchgyfeirio achosion mwy difrifol i gyrchu cymorth pellach.

30,000 o bobl wedi derbyn cymorth gan y gwasanaeth - sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru - ers iddo gael ei dreialu ym Mhowys yn 2018.

Os ydych yn derbyn gofal gan wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc neu Wasanaethau Sylfaenol Lleol BIP CTM, trafodwch atgyfeiriad gyda'ch therapydd.

I ddysgu mwy am SilverCloud, ewch i dudalen BIAP.

Am fwy o wybodaeth ac i hunanatgyfeirio, ewch i wefan SilverCloud.

Cyhoeddwy: 10/04/2024

Rhannu:
Cyswllt: