Neidio i'r prif gynnwy

SgwrsIechyd: Cyngor Iechyd Cyfrinachol I Bobl Ifanc Ar Flaen Eich Bys

Delwedd cartŵn o camperfan gyda thestun

Gall pobl ifanc ym Mhowys nawr gael cyngor iechyd cyfrinachol am ddim dros decst. Mae'r gwasanaeth arloesol hwn yn cael ei ddarparu gan Nyrsys Ysgol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ac mae'n helpu pobl ifanc rheoli eu hiechyd eu hunain.

Trwy decstio 07312 263050, gall pobl ifanc ofyn i Weithwyr Iechyd Proffesiynol am gymorth a chyngor ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;

  • Iechyd Meddwl
  • Bwlio
  • Dulliau atal cenhedlu
  • Alcohol
  • Hunan-niweidio
  • Rhyw
  • Cyffuriau
  • Ysmygu
  • Bwyta’n Iach

 

Mae SgwrsIechyd yn wasanaeth tecstio sy'n galluogi pobl ifanc i anfon neges destun at linell gymorth a chael gwybodaeth gyfrinachol a chefnogaeth gan dîm o nyrsys ysgol. Gall defnyddwyr hyd yn oed ddewis defnyddio’r gwasanaeth yn ddienw os ydyn nhw'n dymuno.

Mae pobl ifanc mewn ardaloedd eraill sy'n defnyddio SgwrsIechyd wedi dweud eu bod yn teimlo'n llai annifyr a ddim yn cael eu barnu drwy ddefnyddio'r gwasanaeth.

Gellir anfon negeseuon ar unrhyw adeg ond bydd pob neges yn cael eu darllen a'u hymateb i rhwng dydd Llun i ddydd Gwener, 9-4:30 ac eithrio Gwyliau Banc. Nod y tîm Nyrsio Ysgolion fydd ymateb i unrhyw neges o fewn 24 awr.

Am fwy o wybodaeth ar SgwrsIechyd, ewch i https://biap.gig.cymru/sgwrsiechyd/ a gall pobl ifanc gyrchu’r gwasanaeth trwy anfon tecst at 07312 263050

 

 

Rhannu:
Cyswllt: