Wedi’i gorwneud y Nadolig hwn? Mae mis Ionawr Sych yn gyfle i ailosod - nid yn unig yn gorfforol, ond yn feddyliol hefyd - gan eich helpu chi deimlo'n gliriach, yn dawelach ac mewn mwy o reolaeth.
Dyma dair ffordd y gall rhoi’r gorau i alcohol roi hwb i'ch meddwl a'ch hwyliau.
Cwsg gwell, golwg mwy disglair
Gall alcohol greu problemau gyda chylchoedd cysgu, gan adael i chi deimlo'n groglyd ac yn anniddig. Mae cymryd hoe yn caniatáu i'ch corff adfer patrymau cysgu naturiol, gan eich galluogi chi i orffwys yn ddyfnach ac yn fwy adferol. Gyda gwell cwsg, rydych chi'n fwy tebygol o ddechrau diwrnod gyda hwyliau mwy disglair, ffocws mwy craff, a'r gwydnwch i reoli uchafbwyntiau a phroblemau bywyd bob dydd.
Lefelau gorbryder is
Efallai gall deimlo bod alcohol yn eich helpu chi ymlacio, ond yn aml mae'n chwyddo teimladau o orbryder, yn enwedig y diwrnod ar ôl yfed. Trwy roi gorau i alcohol, efallai y byddwch yn sylwi ar ostyngiad yn eich gorbryder a nerfau’r diwrnod nesaf, ac yn hytrach ennill ymdeimlad mwy cyson o dawelwch trwy gydol y mis.
Gwell Sgiliau Ymdopi
Heb ddibynnu ar alcohol fel ffordd o leddfu straen, mae Ionawr Sych yn eich annog i ymchwilio i ffyrdd ymdopi iachach, fel ymwybyddiaeth ofalgar, ymarfer corff, neu siarad pethau drwyddo gyda ffrind. Gall adeiladu'r arferion hyn leihau straen a rhoi’r offer i chi reoli amseroedd anodd ymhell ar ôl diwedd mis Ionawr.
Trwy roi cynnig ar Ionawr Sych, nid yn unig ydych chi'n rhoi seibiant i'ch corff, rydych chi'n rhoi'r gofal y mae'n ei haeddu i'ch iechyd meddwl hefyd.
Os ydych chi'n cael trafferth, gall cyrsiau ar-lein SilverCloud helpu, gydag offer ymarferol ar gyfer rheoli straen, gorbryder, hwyliau isel a mwy.
Dysgwch fwy am y gwasanaeth yma: SilverCloud - Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Dechreuwch yma: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Cyhoeddwyd: 30/12/2024