Neidio i'r prif gynnwy

Trydydd rhifyn Ffocws Cymunedol Tref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed ar gael nawr - Ebrill 2023

Mae trydydd rhifyn ein cylchlythyr Ffocws Cymunedol Tref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed bellach ar gael o'n gwefan. gallwch lawrlwytho'r cylchlythyr yma neu ei ddarllen isod.

Yn ein cylchlythyr diwethaf rhoddon ddiweddariad ar yr her barhaus i recriwtio staff nyrsio cleifion mewnol i Ysbyty Tref-y-clawdd. Rhannon ni hefyd ein dyheadau i ddarparu mwy o ofal yn agosach at adref drwy gyflwyno pedwar ystafell 'ail-alluogi' dros dro ar Ward Panpwnton

Rydyn ni’n gwneud cynnydd mawr gyda'r cynllun hwn, ac yn ddiweddarach y mis hwn (Ebrill 2023) yn disgwyl i'r gwelyau hyn fod ar gael i gleifion o Ddwyrain Sir Faesyfed nad oes angen gofal Ysbyty Cyffredinol Dosbarth arnynt ragor ond sydd dal angen cymorth cyn dychwelyd adref. Mae'r gwaith addurno bellach wedi ei gwblhau ac rydym yn aros am gymeradwyaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Bydd y gwelyau hyn yn cael eu rheoli gan ein tîm gofal preswyl profiadol ac, lle bo angen, yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr clinigol gan gynnwys nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig.

Felly, i grynhoi; dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio'n galed i recriwtio nyrsys cofrestredig i ymuno â'r tîm cleifion mewnol yn Ysbyty Tref-y-clawdd. Ond yn anffodus, er ein bod wedi derbyn ychydig o ddiddordeb mewn rolau nyrsio cofrestredig, nid yw wedi cyrraedd y lefelau sydd eu hangen eto i redeg ward 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Fel y byddwch wedi gweld yn y newyddion, mae recriwtio staff nyrsio yn profi'n her ledled y DU

Noddodd David Farnsworth, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Dros y tair blynedd diwethaf mae angerdd y gymuned leol dros y ward wedi bod yn glir. Rydym hefyd wedi clywed bod anghenion y gallem ddiwallu ond mewn ffordd wahanol. Er enghraiŏ, mae'r pwysau presennol ar y system iechyd a gofal yn golygu bod rhai pobl yn aros am becyn gofal i'w galluogi i ddychwelyd adref yn nwyrain Sir Faesyfed. Mae hyn yn golygu y gallant fod yn aros mewn ysbyty cyffredinol dosbarth neu mewn ysbyty cymunedol yn rhywle arall.

Gyda'r cynllun hwn, bydd mwy o bobl yn cael mwy o ofal yn eu cymuned leol, gan leihau'r angen i deulu, ffrindiau a gofalwyr deithio i ysbytai cyffredinol dosbarth neu ysbytai cymunedol eraill." "Rydym wedi gwrando ar bobl yn y gymuned trwy holiadur byr ar-lein a gwelsom, tra bod rhai pryderon am ddyfodol y ward, fod cefnogaeth hefyd i'w hail-bwrpasu’r lleoliad dros dro.

"Mae'n rhaid i mi bwysleisio ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygiad parhaus gwasanaethau i bobl yn Nhref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed, a byddwn yn parhau i weithio gyda chi i sicrhau dyfodol disglair i Ysbyty Tref-y-clawdd. Rydym yn parhau i groesawu eich adborth yn ein ffurflen adborth ar-lein ar wefan ein hysbyty."

Ewch i’n gwefan yn www.biap.gig.cymru/ysbyty-trefycloam y wybodaeth ddiweddaraf ar wasanaethau lleol

 

Rhyddhawyd: 21/04/2023

Rhannu:
Cyswllt: