Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Ffisiotherapi

Ffisiotherapydd yn ymestyn at glaf dyn yn y clinig.

Beth allwch ei ddisgwyl oddi wrth Ffisiotherapi? 

  • Mae Ffisiotherapyddion yn helpu pobl y mae anaf, salwch neu anabledd wedi effeithio arnyn nhw, trwy ymarfer corff, addysg a chyngor. 
  • Bydd rhywun yn gwrando arnoch chi ac yn eich annog i ofyn cwestiynau a chyfrannu at gynllunio’ch gofal. Mae hyn yn hanfodol i’n helpu i ddeall eich disgwyliadau a’ch galluogi i gyflawni’r deilliant gorau. 
  • Mae ffisiotherapi yn broffesiwn sydd wedi’i seilio ar wyddoniaeth a bydd y triniaethau wedi’u seilio ar yr ymchwil ddiweddaraf oll.

 

Oes angen Ffisiotherapydd arnoch chi?

Mae’n bosibl nad oes angen ichi weld neu siarad â Ffisiotherapydd i wella. Mae problemau sy’n dechrau heb anaf yn aml yn ymateb yn dda i ymarferion corff syml, ochr yn ochr â newidiadau yn eich ffordd o fyw, fel colli pwysau, ymarfer corff cyffredinol, rhoi’r gorau i ysmygu. Ystyriwch ddefnyddio’r cyngor a’r ymarferion corff ar Dudalen Cyhyrysgerbydol Ffisiotherapi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys cyn gwneud atgyfeiriad.  

 

 

Gwasanaethau o fewn Ffisiotherapi (cliciwch ar enwau'r gwasanaeth i ddarganfod mwy):

Rhannu:
Cyswllt: