Rydym yn uwchraddio ein hoffer pelydr-x yn y Trallwng, Llandrindod ac Ystradgynlais. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gynnal tan fis Ionawr 2025. Yn ystod yr amser hwn, bydd gwasanaethau pelydr-X ar gael yn Ysbyty Coffa Aberhonddu ac Ysbyty Sirol Trefaldwyn yn y Drenewydd. Nid yw gwasanaethau uwchsain wedi’u heffeithio a byddant yn parhau fel arfer.
Croeso i Radioleg Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP). Radioleg yw'r gangen o feddygaeth sy'n arbenigo mewn defnyddio delweddu i roi diagnosis o gyflyrau o fewn y corff.
Mae Radiograffwyr, Radiolegwyr a Sonograffwyr yn defnyddio technegau delweddu fel Pelydr-X ac Uwchsain, wrth wneud diagnosis ac i drin clefydau. Mae safleoedd BIAP yn y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais yn defnyddio technegau pelydr-X, law yn llaw ag Unedau Mân Anafiadau BIAP ac yn cefnogi gwasanaethau mamolaeth drwy ddefnyddio technoleg uwchsain gyda chleifion Powys yn ystod beichiogrwydd.
Mae gan adrannau Radioleg BIAP offer radiograffeg cyffredinol (peiriannau pelydr-X), unedau deintyddol, a sganwyr uwchsain.
Mae ein hadrannau delweddu a'n timoedd yn darparu gwasanaeth delweddu ar safleoedd ar draws Powys yn:
Mae'r gwasanaeth Radioleg yn cynnwys gwasanaethau delweddu radioleg gyffredinol ar gyfer cleifion mewnol mewn ysbytai yn ogystal â chynnal atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu, Unedau Mân Anafiadau, Ymgynghorwyr ymweld mewn clinigau un-alwad arbennig a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd.
Mae ein hadrannau Radioleg yn derbyn atgyfeiriadau’r GIG ac atgyfeiriadau preifat, ond nid ydynt yn derbyn hunanatgyfeiriadau gan gleifion. Rhaid i atgyfeiriadau bob amser ddod gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol fel eich Meddyg Teulu neu Ymgynghorydd. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, er enghraifft Ffisiotherapydd neu Podiatrydd, hefyd eich cyfeirio at ddelweddu, lle maent wedi cwblhau hyfforddiant penodol ychwanegol i gael yr hawl i'ch cyfeirio.
Rydym yn gwasanaethu poblogaeth leol Powys ar gyfer delweddu pelydr X ac uwchsain. Ar gyfer mathau ychwanegol o ddelweddu fel Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI), Tomograffeg Gyfrifiadurol (CT), sgan Dexa neu Famograffeg byddech yn cael eich cyfeirio at ysbyty arall y tu allan i Bowys.
Oni bai eich bod yn glaf Uned Mân Anafiadau, byddwch yn derbyn llythyr gennym yn eich gwahodd i gael apwyntiad. Bydd y llythyr yn amlinellu unrhyw beth y gallai fod angen i chi ei wneud cyn mynychu neu unrhyw beth y gallai fod angen i chi ddod ag i’r apwyntiad gyda chi.
Bydd cleifion sy'n mynychu Unedau Mân Anafiadau, yn cysylltu â'r Uned yn y lle cyntaf i gael eu hadolygu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Os oes angen sgan Pelydr-X yn dilyn eich asesiad yn yr Uned Mân Anafiadau gofynnir i chi fynychu'r adran X-Ray.
Mae'n bwysig, er lles tawelwch meddwl ein cleifion, eu bod yn deall yn well beth i'w ddisgwyl yn ystod gweithdrefn neu archwiliad radioleg. Siarad gyda'n tîm a'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth yr atgyfeiriad yw'r lle gorau i ddechrau, ond dyma rai cwestiynau cyffredin cyn apwyntiad radioleg.
Cysylltwch â'ch adran Radioleg leol ar gyfer atgyfeiriad am ddelweddau ffilm blaen neu uwchsain o fewn Powys. Yn dibynnu ar eich hawl i gyfeirio a’ch cwmpas ymarfer byddwch yn cael ffurflen atgyfeirio gennym.
Fel rhan o’r Tîm Radioleg, mae’r rolau canlynol:
Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, er enghraifft, sonograffwyr bydwreigiaeth gwblhau archwiliadau uwchsain yn ymwneud â maes mamolaeth ac mewn rhai safleoedd gweithio o'r adran Radiograffeg.
Delweddu pelydr-X
Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am y dull delweddu pelydr-X ar gael drwy'r ddolen ganlynol i wefan y GIG:
Delweddu uwchsain
Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am y dull delweddu uwchsain ar gael drwy'r ddolen ganlynol i wefan y GIG:
Sgan uwchsain (tudalen we Saesneg)
Taith claf trwy Radioleg
Mae'r ddolen ganlynol yn dangos enghraifft o daith glaf drwy adran Radioleg ar YouTube:
Taith claf drwy adran radioleg - Fideo YouTube (youtube.com) (Saesneg yn unig)
Enghraifft o sgan uwchsain
Mae'r ddolen ganlynol yn dangos enghraifft o beth sy’n digwydd yn ystod sgan uwchsain ar YouTube:
Beth sy'n digwydd mewn sgan Uwchsain? - Fideo YouTube (youtube.com) (Saesneg yn unig)
Cyngor ar Raglen Delweddu Genedlaethol GIG Cymru
Mae'r ddolen ganlynol yn arwain at gyhoeddiad 'Delweddu meddygol: beth mae angen ichi wybod' gan Raglen Delweddu Genedlaethol GIG Cymru. Bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi am y gwahanol fathau o archwiliadau delweddu a'u manteision a'u peryglon. Bydd eich Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn sicrhau bod y manteision i chi'n bersonol o gael unrhyw archwiliad yn fwy na'r peryglon o ymbelydredd. Gallwch ddefnyddio'r tabl ar ddiwedd y cyhoeddiad hwn i edrych ar y peryglon ymbelydredd ar gyfer gwahanol archwiliadau. Os oes gennych gwestiynau ar ôl darllen y cyhoeddiad hwn, gofynnwch i'ch Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol:
Cyhoeddiad ‘Delweddu meddygol: beth mae angen ichi wybod' gan Raglen Delweddu Genedlaethol GIG Cymru
Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros
Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi yn effeithlon a dysgu sut i reoli eich symptomau wneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad eich triniaeth a’ch adsefydliad. Mae’r dudalen ‘Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros' ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn darparu ystod o gyngor i gefnogi hyn, yn y ddolen ganlynol:
Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Rhifau ffôn, gwasanaethau a gynigir ac oriau gwasanaethu:
Rydym yn croesawu unrhyw adborth a allai fod gennych am eich profiad gyda'r Gwasanaeth Radioleg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP). Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio’r amser i gwblhau un o’r arolygon adborth canlynol.
Bydd canlyniadau eich adborth yn helpu llunio dull yr Adran a BIAP o wella ein gwasanaeth.
Sylwer, rydym yn safle hyfforddi ar gyfer Radiograffwyr israddedig sy'n cefnogi Prifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Arolwg adborth gwasanaethau uwchsain (nad yw’n obstetrig)
I gyrchu ein harolwg adborth ynghylch gwasanaethau uwchsain (nad yw’n obstetrig), cliciwch ar y ddolen ganlynol. Fel arall, gallwch sganio'r ddelwedd cod QR cysylltiedig isod gyda ffôn clyfar / dyfais arall os ydych chi am gwblhau'r arolwg trwy ddyfais wahanol. Bydd hyn yn mynd â chi i'r un lleoliad tudalen we â'r ddolen.
Arolwg adborth gwasanaethau Pelydr-X
I gyrchu ein harolwg adborth ynghylch gwasanaethau Pelydr-X, cliciwch ar y ddolen ganlynol. Fel arall, gallwch sganio'r ddelwedd cod QR cysylltiedig isod gyda ffôn clyfar / dyfais arall os ydych chi am gwblhau'r arolwg trwy ddyfais wahanol. Bydd hyn yn mynd â chi i'r un lleoliad tudalen we â'r ddolen.
Adborth y Claf - Gwasanaethau Pelydr-X - Gwasanaeth Radioleg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sylwer na all yr adran Radioleg ganiatáu i chi dynnu lluniau yn ystod neu ar ôl unrhyw weithdrefn archwilio. I gael copïau o unrhyw ddelweddu, ceisiwch gyngor a'r prosesau gwneud cais a fanylir ar dudalen we BIAP 'Mynediad at Wybodaeth', sydd ar gael yn y ddolen ganlynol:
Mynediad at Wybodaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)