Mae’r gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr o dan bwysau eithriadol. Mae arweinwyr iechyd a gofal yn annog pobl i wneud eu rhan i helpu cefnogi gwasanaethau drwy ddewis y gwasanaeth gorau i'w hanghenion, os ydynt yn sâl neu wedi'u hanafu yn ystod y cyfnod prysur hwn.
Mae niferoedd Covid-19 cynyddol, galw mawr am wasanaethau a heriau parhaus gyda salwch yn y gweithlu i gyd yn cyfrannu at bwysau ar y system. O ganlyniad, bydd angen i'r system iechyd a gofal gymryd camau ychwanegol i flaenoriaethu gofal brys a chynnal gwasanaethau diogel i gleifion.
Bydd cleifion sydd â'r lefel uchaf o angen yn cael eu blaenoriaethu, gallai hyn olygu bod rhai gwasanaethau sydd ddim yn rhai brys yn cael eu gohirio neu eu haildrefnu. Parhewch i fynd i'ch apwyntiad yn ôl yr arfer oni bai bod rhywun yn cysylltu â chi i aildrefnu.
Mae trigolion Powys yn defnyddio eu gwasanaethau ysbyty acíwt o fyrddau iechyd cyfagos yng Nghymru ac Ymddiriedolaethau GIG cyfagos yn Lloegr. Mae pob ysbyty yn apelio ar gymunedau lleol i ond ddod i Unedau Damweiniau ac Achosion Brys am gyflyrau ac anafiadau sy'n peryglu bywyd. Rydym yn eich annog i beidio â ffonio 999 na mynychu Unedau Damweiniau ac Achosion Brys oni bai ei fod yn argyfwng: Mae gwefan GIG 111 ar-lein yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ble i gael cymorth a chefnogaeth.
Mae fferyllwyr lleol yn lle gwych i ddechrau ar gyfer mân anhwylderau a chyngor hunan ofal. Trwy'r Cynllun Anhwylderau Cyffredin gallwch gael cyngor a thriniaeth ar gyfer amrywiaeth o anhwylderau cyffredin heb orfod gwneud apwyntiad meddyg teulu.
Mae Unedau Mân Anafiadau y Bwrdd Iechyd, wedi’u lleoli yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Trallwng ac Ystradgynlais, helpu i roi cyngor a thriniaeth ar gyfer mân anafiadau amrywiol fel ysigiadau a straen. Ffoniwch yn gyntaf os gallwch fel y gall ein nyrsys arbenigol roi cyngor i chi dros y ffôn, trefnu apwyntiad os oes angen, neu eich cyfeirio at wasanaeth arall os yw'n briodol. Mae apwyntiadau galw heibio ar gael i bobl na allant ddefnyddio'r ffôn i gysylltu â ni.
Mae mân wasanaethau anafiadau hefyd ar gael gan lawer o feddygfeydd ar draws y sir. Gwiriwch gyda'ch meddygfa deulu leol am fanylion..
Os oes gennych berthynas neu anwylyn yn yr ysbyty sy'n ddigon iach i fynd adref, ond sy'n aros i gael eu rhyddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch eu helpu i fynd adref yn gynt os gallwch chi a'ch teulu eu cefnogi gartref.
Rydym yn gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod pobl yn cael eu cadw'n ddiogel, a hoffem sicrhau'r cyhoedd bod ein gwasanaethau yn parhau ar agor i unrhyw un sydd eu hangen er gwaethaf yr heriau a wynebir. Helpwch ni i'ch helpu chi a'r rhai rydych chi'n eu caru.
Dyma sut y gallwch helpu:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y ddolen hon am sut i Helpu Ni i’ch Helpu Chi.
Chwiliwch am y newyddion diweddaraf o'ch Uned Damweiniau ac Achosion Brys agosaf yma: Ysbytai Cyfagos
Cyhoeddi ar 03/01/2023