Yn dilyn cyhoeddi marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II ar 8 Medi 2022, mae'r dudalen hon yn rhoi cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol yn ystod y cyfnod hwn o alaru cenedlaethol.
Gwybodaeth am wasanaethau sydd yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Wythnos yn dechrau 12 Medi: Mae gwasanaethau'r byrddau iechyd yn gweithredu fel arfer. Mae eich apwyntiad gyda gwasanaethau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn mynd ymlaen fel arfer oni bai eich bod yn cael eich cynghori fel arall.
- Dydd Llun 19 Medi (Gŵyl y Banc): Edrychwch ar ein tudalen we bwrpasol i gael manylion.
- O ddydd Mawrth 20 Medi ymlaen: Bydd gwasanaethau'r byrddau iechyd yn gweithredu yn ôl yr arfer o ddydd Mawrth 20 Medi.
Ffynonellau cyngor a chymorth mewn cyfnod o alar cenedlaethol
Bydd y cyhoeddiad am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II ar 8 Medi 2022 yn effeithio ar bob un ohonom mewn gwahanol ffyrdd. Mae ffynonellau defnyddiol o gyngor a chymorth yn cynnwys:
Teyrngedau a Choffáu
Ffynonellau cyngor a gwybodaeth pellach
- Mae'r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar gyfnod y Galaru Cenedlaethol ar gael o'u gwefan. Mae hyn hefyd yn cynnwys canllawiau cenedlaethol ar faterion fel chwifio baneri a theyrngedau blodeuog.
- Mae'r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth y DU ar gyfnod y Galaru Cenedlaethol ar gael o'u gwefan.
- Mae cyhoeddiadau swyddogol o'r Aelwyd Frenhinol ar gael o'u gwefan.