Mae tîm Gofal Lliniarol Arbenigol Powys yn darparu cymorth a chyngor i gleifion a'u teuluoedd sydd â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd gyda symptomau sy'n gymhleth i'w reoli.
Nid ydym yn wasanaeth argyfwng ac rydym ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 08:30-16:30. Ar benwythnosau a gwyliau banc, cysylltwch â'ch gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau.
Mae'r Gwasanaeth Gofal Lliniarol Arbenigol yn derbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu, wardiau cleifion mewnol, timau arbenigol ysbytai ac ymgynghorwyr.
Gan weithio gyda gwasanaethau ysbyty a chymunedol mewn partneriaeth â chi, eich teulu neu ofalwr, gallwn gynnig cymorth a chyngor arbenigol i gleifion a'u teuluoedd gartref, mewn lleoliadau cartrefi gofal ac ysbytai cymunedol Powys, gan gynnwys:
De Powys - sy'n cwmpasu'r meddygfeydd yn yr ardaloedd canlynol- Y Gelli Gandryll, Talgarth, Crucywel, Aberhonddu ac Ystradgynlais.
Canolbarth Powys - sy'n cwmpasu'r meddygfeydd yn Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Rhaeadr Gwy, Tref-y-clawdd a Llanandras.
Gogledd Powys- sy'n cwmpasu'r meddygfeydd yn Llanidloes, Y Drenewydd, Machynlleth, Trefaldwyn, Y Trallwng, Llanfyllin, Llanfair Caereinion.
Cyfeiriad e-bost cyffredinol yw Powys.palliativecareteam@wales.nhs.uk
Mae Fy Mywyd, Fy Nymuniadau, Cynllun Gofal Ymlaen Llaw yn ffordd wirfoddol o feddwl, paratoi a chynllunio ar gyfer eich gofal yn y dyfodol a diwedd eich oes. Am ragor o wybodaeth: Fy Mywyd Fy Nymuniadau - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Gall Cyngor Sir Powys ddarparu cymorth gyda chyngor ariannol neu Gymorth Macmillan. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Sir Powys.
Wedi'i hwyluso gan Gyngor Sir Powys, mae CYMORTH yn darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer gofal a chymorth i oedolion. Gall hyn gynnwys diogelu, rhyddhau cleifion o'r ysbyty, offer, cymorth yn y cartref, cyngor a chymorth ynghylch gofal preswyl a nyrsio, ailalluogi, cyngor a chyfeirio. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor.
Gall Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) ddarparu cymorth mewn nifer o feysydd, gan gynnwys: