Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos olaf: Bwrdd Iechyd yn cynnig newidiadau dros dro i wasanaethau i gynnal diogelwch a chynaliadwyedd gofal iechyd ym Mhowys

Wythnos olaf i ddweud eich dweud 

Cliciwch yma i gael gwybod mwy a dweud eich dweud o'n gwefan ymgysylltu ar www.dweudeichdweudpowys.cymru/drosdro

 

Mae nifer o newidiadau dros dro i wasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu cynnig i ddigwydd o Hydref 2024.

Yng nghyfarfod cyhoeddus y Bwrdd ar 24 Gorffennaf, tynnwyd sylw at yr angen i ystyried newidiadau dros dro i oriau agor rhai unedau mân anafiadau a ddarperir gan y bwrdd iechyd, a newidiadau dros dro i'r model clinigol ar gyfer gwelyau cleifion mewnol mewn ysbytai cymunedol Powys.

Mae cyfnod o ymgysylltu â chleifion, y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid yn digwydd yn ystod yr haf i esbonio'r newidiadau dros dro a gwahodd adborth. Bydd rhagor o fanylion ar gael o wefan ymgysylltu'r bwrdd iechyd o ddydd Llun 29 Gorffennaf gydag ymgysylltu yn digwydd tan ddydd Sul 8 Medi.

 

Mae'r GIG ledled y DU, ac yn lleol ym Mhowys, yn wynebu nifer o heriau i gynnal ansawdd, diogelwch, canlyniadau a chynaliadwyedd ariannol i gleifion a chymunedau. Cynyddodd amseroedd aros ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn ystod pandemig COVID ac maent yn parhau'n uchel. Mae pwysau chwyddiant yn effeithio ar y sector cyhoeddus cyfan, gan gynyddu costau darparu gwasanaethau. Mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda chyflyrau iechyd lluosog. Ac mae pwysau ar staffio, gan gynnwys bod cyfran y bobl o oedran gweithio yn lleihau.

Felly, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnig rhai camau ar unwaith i helpu cynnal gwasanaethau o safon o fewn yr adnodd sydd ar gael.

Newidiadau Dros Dro i Oriau Agor Unedau Mân Anafiadau BIAP

Yn gyntaf, rydym yn cynnig newidiadau dros dro i'r oriau agor ar gyfer rhai Unedau Mân Anafiadau BIAP.

Mae wedi profi'n fwyfwy anodd i staffio unedau mân anafiadau'r sir. Yn aml mae’n rhaid cau unedau dros nos a gyda'r nos oherwydd nad yw staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ar gael. Mae hyn yn creu ansicrwydd i gleifion.

Ac, fel arfer, mae tua un neu ddau o bobl y noson yn mynychu'r Uned Mân Anafiadau yn Aberhonddu neu Llandrindod, ac yn y mwyafrif sylweddol o achosion gallai eu hanghenion gofal aros tan y bore neu y byddai'n well mynd i'r afael â nhw mewn mannau eraill - er enghraifft oherwydd bod angen yr adnoddau arbenigol arnynt mewn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn ysbyty mawr. Er bod hyn yn cynnig cyfleustra i gleifion, nid yw'n cynnig y defnydd gorau o adnoddau gwerthfawr y GIG.

Ar ôl ystyried yr heriau hyn yn ofalus, mae'r bwrdd iechyd yn cynnig y newidiadau canlynol i oriau agor unedau mân anafiadau BIAP:

 

 

Oriau Agor Cyfredol

Oriau Agor Dros Dro o Hydref 2024

Aberhonddu

24 awr

7 diwrnod yr wythnos

8am tan 8pm

7 diwrnod yr wythnos

Llandrindod

7am tan canol nos

7 diwrnod yr wythnos

8am tan 8pm

7 diwrnod yr wythnos

Y Trallwng (dim newid)

8am tan 8pm

7 diwrnod yr wythnos

8am tan 8pm

7 diwrnod yr wythnos

Ystradgynlais (dim newid)

8.30am tan 4pm

Llun - Gwener (ac eithrio gwyliau banc)

8.30am tan 4pm

Llun - Gwener (ac eithrio gwyliau banc)

 

Bydd rhai newidiadau dros dro hefyd i staffio yn unedau mân anafiadau'r bwrdd iechyd er mwyn iddo gyd-fynd yn well â gweithgaredd gwasanaeth a'r galw.

Newidiadau dros dro i'r model clinigol ar gyfer gwelyau cleifion mewnol yn Ysbytai Cymunedol Powys

Mae gormod o gleifion yn treulio gormod o amser yn yr ysbyty. Mae hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd o "ddatgyflyru" lle mae cleifion yn colli cryfder yn eu cyhyrau, yn colli'r gallu i ofalu amdanynt eu hunain, ac yn mynd yn anesmwyth. Gall hyn ei gwneud yn anoddach dychwelyd i'w lefelau blaenorol o weithgaredd a gweithredu pan fyddant yn dychwelyd adref, a gall gynyddu'r siawns o gael eu derbyn i'r ysbyty.

Hefyd, mae'n anodd estyn allan i bob rhan o sir wledig fawr gyda'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen ar gyfer y gofal amlddisgyblaethol gorau, ac mae gormod o ddibyniaeth ar staffio asiantaeth ddrud iawn.

Mae'r bwrdd iechyd felly yn cynnig rhai newidiadau i'r model clinigol ar gyfer gofal cleifion mewnol mewn ysbytai cymunedol Powys.

Mae nifer y gwelyau ysbyty cymunedol a'u lleoliadau yn parhau heb newid ar draws y sir. Bydd pedwar ysbyty yn ymgymryd â ffocws mwy arbenigol i helpu sicrhau'r ansawdd a'r canlyniadau gorau i gleifion.

Byddai Bronllys a Llanidloes yn cael eu dynodi fel ein hunedau "Barod i Fynd Adref". Byddai'r rhain yn darparu gofal a chymorth â ffocws i gleifion sy'n barod i ddychwelyd adref ond sy'n aros am becyn o ofal cymunedol.

Byddai Aberhonddu a'r Drenewydd yn ymgymryd â rôl estynedig i gefnogi cleifion sydd angen gofal adsefydlu cleifion mewnol mwy arbenigol mewn ysbyty cymunedol. Mae hyn yn adeiladu ar eu rôl bresennol fel ein canolfannau ar gyfer adsefydlu strôc.

Yn gyffredinol, nod y newidiadau hyn yw lleihau arosiadau estynedig diangen yn yr ysbyty, fel bod cleifion yn gallu dychwelyd i'w cartref gan gynnwys cartref gofal.

Maen nhw hefyd yn ceisio ein helpu i ddod â chleifion yn ôl i Bowys yn gynt o ysbytai mewn siroedd cyfagos.

 

Camau Nesaf

Byddai'r newidiadau dros dro hyn yn digwydd o Hydref 2024 am gyfnod o chwe mis.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o Gofyn Eich Barn ar Newidiadau Dros Dro i Wasanaethau Iechyd ym Mhowys. | Dweud Eich Dweud Powys gan gynnwys papur materion, cwestiynau cyffredin, fformatau amgen (e.e. hawdd ei ddeall), arolwg i rannu eich barn, a gwahoddiad i sesiynau gweminar i ddarganfod mwy a gofyn cwestiynau. Bydd aelodau'r cyhoedd heb fynediad digidol hefyd yn gallu ffonio i ofyn am gopi caled.

Fel rhan o'r ymgysylltiad hwn, mae'r bwrdd iechyd hefyd yn awyddus i gasglu syniadau ac awgrymiadau i helpu sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn ddiogel ac yn gynaliadwy yn hirdymor.

 

Cyhoeddwyd:  14/8/24

Rhannu:
Cyswllt: