Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion y Bwrdd Iechyd

Rhifyn cyntaf Ffocws Cymunedol Tref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed ar gael nawr

Diweddariad ar wasanaethau'r GIG yn Nhrefyclo a Dwyrain Sir Faesyfed

Mae contract newydd ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol y GIG wedi'i ddyfarnu yn Llandrindod.

Gofynnir i gleifion gysylltu â’r llinell gymorth ddeintyddol ar 01686 252 808

Clinigau Galw Heibio Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 - wythnos yn dechrau 28 Tachwedd

Mae Cynogwyr Hydref COVID 19 ar gael i rai cleifion 50+ oed o Bowys ac ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

Cyfarfod y Bwrdd ar 30 Tachwedd 2022

Bydd Bwrdd BIAP yn cyfarfod yn gyhoeddus ar 30 Tachwedd 2022

Adroddiad newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn tynnu sylw at effaith cefnogi partneriaid yn GIG Cymru, mewn gofal cymdeithasol ac yn y diwydiant

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol, sy’n tynnu sylw at sut mae’n cyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol i wella canlyniadau iechyd a lles economaidd yng Nghymru.

Y Bwrdd Iechyd yn rhybuddio bod cam-drin staff iechyd a gofal yn annerbyniol
Meddyg blinedig yn eistedd yn y gweithle
Meddyg blinedig yn eistedd yn y gweithle
Clinigau Galw Heibio Brechlyn Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 - wythnos yn dechrau 21 Tachwedd

Mae brechlyn atgyfnerthu'r hydref COVID 19 ar gael i rai cleifion 50+ oed o Bowys ac ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

Diwrnod Recriwtio Nyrsys Iechyd Meddwl yn Aberhonddu ddydd Gwener 25 Tachwedd

Ymunwch â ni rhwng 10am ac 1pm i ddarganfod mwy am rolau ar Ward Crug yn Ysbyty Aberhonddu.

GIG 111 Cymru: am gyngor gofal iechyd y gallwch ymddiried ynddo

Mae gwasanaeth 111 CYMRU yn annog y cyhoedd i fanteisio’n llawn ar ei gyngor a gwybodaeth iechyd rhad ac am ddim yn y cyfnod cyn y gaeaf.

Dylai gwefan GIG 111 Cymru fod yn fan cyswllt cyntaf i’r cyhoedd os ydynt yn sâl neu wedi’u hanafu ac yn ansicr beth i’w wneud.

 

Bydd mwy na 75 o wirwyr symptomau yn awgrymu beth sydd o'i le a'r camau nesaf i'w cymryd, o boen yn yr abdomen i bryder, anawsterau anadlu i losgiadau, dolur rhydd i bendro, llewygu a thwymyn.

 

Os yw eich pryder iechyd yn fater brys, bydd y rhai sydd wedi'u hyfforddi'n drylwyr i drin galwadau ar y rhif rhad ac am ddim 111 hefyd yn rhoi cyngor i chi dros y ffôn, gan drefnu galwad yn ôl gan glinigwr os oes angen.

 

Bydd defnyddio GIG 111 Cymru yn gyntaf yn lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth 999 a’r Adran Achosion Brys yn ystod gaeaf heriol arall i’r GIG yng Nghymru.

 

Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae llawer o wahanol wasanaethau’r GIG ac weithiau gall fod yn anodd gwybod ble orau i droi am gyngor a chymorth gofal iechyd pan fyddwch yn sâl.

 

“Rydyn ni’n lansio ymgyrch genedlaethol gyntaf GIG 111 Cymru y gaeaf hwn fel bod pobl yn gwybod bod yna wasanaeth sy’n gallu darparu cymorth a gwybodaeth bwrpasol pryd bynnag a lle bynnag mae pobl ei angen.”

 

Dywedodd Peter Brown, Pennaeth Gwasanaeth GIG 111 Cymru, a ddarperir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru: “Gyda thechnoleg ar flaenau ein bysedd, mae pobl mewn mwy o berygl o ddisgyn trwy rwydi’r rhyngrwyd wrth chwilio am symptomau meddygol, sy’n yn eu gadael yn agored i wybodaeth ffug a chamarweiniol.

“Nid yn unig mae GIG 111 Cymru ar-lein yn ffordd gyflym a hawdd o gael cyngor iechyd, ond mae’n gyngor iechyd y gallwch ymddiried ynddo, wedi’i ysgrifennu a’i gymeradwyo gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

“Mae’r adran Gwasanaethau Lleol ar y wefan hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i’ch deintydd, fferyllfa, uned mân anafiadau a chlinig iechyd rhywiol agosaf.”

Ychwanegodd Richard Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen Genedlaethol Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng: “Mae’r gaeaf yn gyfnod heriol i’r GIG, a gwyddom y gall hefyd fod yn anodd i bobl agored i niwed, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw.

 

“Gyda thymor arbennig o wael wedi’i ragweld ar gyfer firysau anadlol, gan gynnwys lefelau uwch o ffliw, achosion Covid-19 wedi’u cadarnhau a derbyniadau i’r ysbyty, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn defnyddio GIG 111 Cymru i dderbyn cyngor gofal iechyd dibynadwy mewn modd amserol a helpu i leddfu’r pwysau ar ein GIG prysur.”

Mae heddiw’n nodi lansiad ymgyrch Cyngor y Gallwch Ymddiried Ynddo GIG 111 Cymru. Ewch i 111.GIG.Cymru i gael rhagor o wybodaeth

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (10 Tachwedd 2022)
Cadw lle yn y Gynhadledd Powys i ofalwyr di-dâl

Gallwch nawr gadw lle ar Gynhadledd Powys i ofalwyr di-dâl 2022, un ai yn bersonol neu ar-lein.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ennill clod mawr am hunanreolaeth cleifion yng Ngwobrau Nursing Times 2022

Mae tîm nyrsio ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Nursing Times 2022.

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru - 3 Tachwedd 2022

Bydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB / EASC) yn derbyn y cynnig i’w ystyried a’i drafod yn y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2022.

Sesiwn Holi ac Ateb gyda Carol Shillabeer ar 3 Tachwedd 2022

Mae ein Sesiwn Holi ac Ateb ar 3 Tachwedd 2022 bellach ar gael i'w wylio ar-lein.

Maes Parcio newydd Ysbyty Aberhonddu i agor yn ystod yr wythnosau nesaf

Set agor i ddigwydd pan fydd y goleuadau wedi'u cwblhau.