Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi'r gorau i ysmygu a rheoli'r effeithiau iechyd meddwl fis Hydref hwn

Llun o ddyn yn torri sigarét yn ei hanner. Mae

Ymrwymo i roi'r gorau i ysmygu ym mis Hydref? Gall SilverCloud Cymru helpu gyda chefnogaeth am ddim gyda’r heriau iechyd meddwl o stopio’r sigaréts.

Mae'n gyffredin teimlo'n llawn straen, yn gynhyrfus a hyd yn oed yn isel pan fyddwch chi'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu. Gall GIG Cymru eich helpu rheoli eich emosiynau gyda mynediad am ddim i gyfres o raglenni cymorth iechyd meddwl gan blatfform gofal iechyd digidol SilverCloud®.

Gyda help ar gyfer symptomau ysgafn i gymedrol o orbryder, iselder a straen, ynghyd â rhaglenni sy'n mynd i'r afael â delwedd negyddol y corff a phryderon ariannol, gall SilverCloud® eich cefnogi i deimlo'n well a chyrraedd eich nodau.

Ar gael unrhyw bryd, unrhyw le

Cofrestrwch ar-lein, am ddim ar eich ffôn, llechen neu liniadur. Cyrchwch eich rhaglen 24/7 lle bynnag mae gennych gysylltiad â’r rhyngrwyd.

Therapi ar-lein sydd â naws personol

Byddwch yn cael cefnogwr ar-lein a fydd yn monitro eich cynnydd ac yn rhoi adborth wedi'i bersonoli bob pythefnos.

Ewch ar gyflymder sy’n siwtio chi

Cwblhewch eich rhaglen ar drywydd sy’n siwtio chi dros 12 wythnos. Neilltuwch awr yr wythnos i gael y budd gorau. Rhannwch yr amser yn slotiau sy’n siwtio chi, eich ffordd o fyw a'ch ymrwymiadau.

 

Cofrestrwch yn https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

 

Rhyddhawyd: 01/10/2024

 

Rhannu:
Cyswllt: