Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCC) yn Gyd-bwyllgor o'r saith Bwrdd Iechyd sy'n gweithredu ar y cyd ar eu rhan.  Fodd bynnag, yn y pen draw, mae Byrddau Iechyd unigol yn atebol i'w poblogaeth a rhanddeiliaid eraill am ddarparu'r gwasanaethau a gomisiynir gan y Cydbwyllgor ar gyfer preswylwyr eu hardal.

Sefydlwyd y Cydbwyllgor mewn ymateb i ganfyddiadau adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i'r trefniadau comisiynu cenedlaethol a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC), Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a'r Uned Gomisiynu Gydweithredol Genedlaethol (NCCU).

O 1 Ebrill 2024, bydd y Cydbwyllgor yn cymryd lle EASC a WHSSC a bydd yn cymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau a gomisiynwyd yn flaenorol gan y pwyllgorau hyn a'r NCCU, ynghyd â chomisiynu gwasanaethau GIG 111 Cymru, a Chanolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am Gydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru ar gael ar wefan Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Rhannu:
Cyswllt: