Neidio i'r prif gynnwy

Lleoliad y gwasanaethau

Clinig Iechyd Rhywiol Gogledd Powys

Ble: Adran Cleifion Allanol Ysbyty'r Drenewydd, Ysbyty Sir Drefaldwyn, Heol Llanfair, Y Drenewydd, Powys SY16 2DW

Pryd: Y 1af a’r 3ydd dydd Mawrth o bob mis

Apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda nyrs iechyd rhywiol.  Mae system brysbennu yn cael ei gweithredu - bydd pob claf yn cael cynnig asesiad ffôn cychwynnol i bennu anghenion ac addasrwydd ar gyfer gofal dan arweiniad nyrsys.


Clinig Atal Cenhedlu Canolbarth Powys (Mewnblaniadau/Coiliau)

Ble: Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Glan Irfon, Ffordd Love, Llanfair-ym-Muallt, Powys

Pryd: Yr 2il a’r 4ydd dydd Iau o bob mis

Clinigau dan arweiniad nyrsys sy'n mewnosod a thynnu mewnblaniadau atal cenhedlu a mewnosod IUS / IUD. Bydd pob claf yn cael cynnig asesiad ffôn cychwynnol.


Clinig Atal Cenhedlu De Powys (Mewnblaniadau/Coiliau)

Ble: Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Bronllys, Bronllys Aberhonddu, Powys, LD3 0LU

Pryd: 1af a’r 3ydd Dydd Iau o bob mis

Clinigau dan arweiniad nyrsys sy'n mewnosod a thynnu mewnblaniadau atal cenhedlu a mewnosod IUS / IUD. Bydd pob claf yn cael cynnig asesiad ffôn cychwynnol.

Rhannu:
Cyswllt: