Ymgynghorydd Therapiaidd
Ymgynghorydd Therapiaidd
Mae Gethin yn byw gyda’i deulu ifanc ger Abertawe ac wedi bod yn teithio i fyny i Bowys ers Medi 2019 i fod yn rhan o’r tîm. Meddai Gethin, “Rwyf wrth fy modd i fod yn gweithio mewn gwasanaeth mor flaengar ac arloesol”.
Am y 19 mlynedd diwethaf ers cymhwyso fel Ffisiotherapydd, mae Gethin wedi cael y fraint o fod wedi gweithio yn y GIG, lleoliadau chwaraeon a gofal iechyd preifat ar draws De Orllewin Cymru ac mae’n parhau i garu’r swydd y mae’n ei gwneud. Ei nod erioed yw gwneud gwahaniaeth i bobl sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor o fewn pob cefndir, ac mae’n teimlo’n anrhydedd cael y cyfle i gefnogi pobl sy’n byw o fewn rhanbarth Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.