Neidio i'r prif gynnwy

Ble Mae'r Gwasnaeth(au) Hyn Yn Cael Eu Darparu

Mae Nyrs Ysgol wedi'i neilltuo i bob ysgol uwchradd ym Mhowys. Yn gyffredinol, mae'r un nyrs yn gofalu am yr ysgolion cynradd sy'n rhoi mewnbwn i'r ysgol uwchradd honno.Mae Nyrsys Ysgol wedi'u lleoli mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ysbytai cymunedol, meddygfeydd a Chanolfannau Plant. Mae ganddyn nhw gyd swyddfeydd yn yr ysgolion uwchradd ar gyfer eu clinigau "Galw Heibio" yn yr ysgol. 

Mae Nyrsys Ysgol yn cynnal Clinigau Galw Heibio mewn ysgolion uwchradd y gall pobl ifanc gael defnyddio’n annibynnol tra byddant yn yr ysgol.

Gall rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc gysylltu â’r Nyrs Ysgol yn eu hardal ar y rhifau cyswllt isod.

Os nad yw plant neu bobl ifanc yn mynychu'r ysgol, mae ganddyn nhw hawl o hyd i gael mynediad at y Nyrs Ysgol sy'n gwasanaethu eu hardal.

 

 

 

Rhannu:
Cyswllt: