Shout
Shout yw’r gwasanaeth negeseuon testun 24/7 am ddim, cyntaf y DU ar holl brif rwydweithiau ffonau symudol, ar gyfer unrhyw un mewn argyfwng, unrhyw bryd ac yn unrhyw le. Mae’n fan i fynd iddo os ydych yn cael anhawster yn ymdopi a’ch bod angen cymorth ar frys.
Gweithredir Shout gan dîm o wirfoddolwyr, sy’n ganolog i’r gwasanaeth.
Tecstiwch ‘shout’ i 85258
Neu ewch i www.giveusashout.org
Llinell Wrando Iechyd Meddwl CALL
Mae CALL yn darparu llinell wrando iechyd meddwl a chymorth emosiynol cyfrinachol sydd ar gael 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio unigolion at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac at ystod o wybodaeth ar-lein.
Tecstiwch ‘help’ i 81066
Llinell decst Young Minds
Mae llinell decst YoungMinds yn cynnig cymorth am ddim, 24/7 dros neges destun i bobl ifanc dan 25oed, unrhyw le yn y DU. Os oes angen siarad â rhywun am sut rydych yn teimlo.
Tecstiwch YM i 85258
(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)