Ydych chi'n meddwl am hunanladdiad? | Ydych chi'n poeni am rywun arall? |
---|---|
Stopiwch
Peidiwch â gwneud unrhyw beth nawr, does dim rhaid i chi weithredu ar eich meddyliau hunanladdol.
Mae hunanladdiad yn derfynol – gall eich meddyliau, teimladau a phroblemau newid.
Efallai eich bod yn teimlo wedi llethu neu fel nad oes ffordd allan, ond pan rydyn yn cael trafferth ymdopi, mae ein hymennydd yn rhoi’r goruau ar ein sgiliau datrys problemau.
Ceisiwch gadw eich hun yn ddiogel am nawr a threuliwch ychydig o amser yn meddwl am y rhesymau dros aros yn fyw.
CEISIWCH GYMORTH Siaradwch gyda rhywun; ffrind, aelod o’r teulu neu wasanaeth cymorth – gwelwch y rhestr isod – mae yna bobl sydd eisiau gwrando a helpu
Gallwch gysylltu â’r Meddyg Teulu neu 111 tu hwnt i oriau gweithio
Cysylltwch â’ch tîm iechyd meddwl argyfwng, os oes gennych un
Os ydych yn teimlo fel bod eich bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys
|
Os ydych yn tybio bod gan rywun meddyliau am hunanladdiad, gofynnwch iddyn nhw- gall achub eu bywyd.
Ni fydd pawb sy’n meddwl am hunanladdiad yn dweud wrth rywun, ond efallai bod arwyddion rhybudd yno
Dywedwch wrth yr unigolyn pam eich bod yn poeni amdanynt a’i bod yn iawn i siarad am hunanladdiad.
Gwrandewch ar beth sydd gan yr unigolyn i ddweud a chofiwch i drin yr hyn maent yn dweud yn ddifrifol ac yn dringar
Ceisiwch beidio â barnu neu roi cyngor
Trafodwch sut y gallant gadw’n ddiogel a lle i ddod o hyd i gymorth
CEISIWCH GYMORTH Anogwch nhw i gysylltu â’r Meddyg Teulu neu 111 tu hwnt i oriau gweithio
Anogwch nhw i gysylltu â’u tîm iechyd meddwl argyfwng, os oes ganddynt un
Anogwch nhw i ddefnyddio un o’r gwasanaethau y cefnogir isod
Os ydych yn teimlo fel bod eu bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch gyda’ch gilydd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys |
Gwybodaeth am eich Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) Lleol ym Mhowys