Neidio i'r prif gynnwy

Cludiant Cleifion Di-argyfwng y GIG (NEPTS)

Dyn anabl mewn cadair olwyn yn defnyddio cerbyd fan hygyrch â lifft

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys i gleifion ledled Cymru nad ydynt yn gallu, am resymau meddygol, wneud eu ffordd eu hunain yn ôl ac ymlaen i'w hapwyntiadau ysbyty.

Mae'n adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth ac ni ddylai gael ei ddefnyddio gan y rhai heb angen meddygol.

Sylwch nad yw angen am driniaeth yn awgrymu angen clinigol am gludiant yn awtomatig. Mae yna broses gymhwysedd y mae'n ofynnol i bob claf fynd drwyddi i sicrhau bod eich anghenion yn briodol ar gyfer y gwasanaeth.

Ar gyfer cleifion y canfyddir nad ydynt yn gymwys, mae Tîm Cludiant Amgen a all drafod opsiynau cludo yn eich ardal chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am opsiynau trafnidiaeth gymunedol o'n gwefan.

Gallech fod yn gymwys i gael cludiant ysbyty os:

  • Rydych chi'n derbyn dialysis rheolaidd neu driniaeth ganser;
  • Mae angen stretsier arnoch chi ar gyfer y daith;
  • Mae angen ocsigen arnoch ar gyfer y daith;
  • Mae angen i chi deithio yn eich cadair olwyn eich hun;
  • Ni allwch gerdded heb gefnogaeth barhaus;
  • Ni allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod gennych gyflwr meddygol a fyddai'n peryglu eich urddas;
  • Mae gennych anawsterau cyfathrebu difrifol neu;
  • Byddwch yn profi sgîl-effeithiau o ganlyniad i'r driniaeth ar gyfer eich cyflwr.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng (NEPTS) - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru neu ffoniwch 0300 123 2303.

Sut ydw i'n gofyn am gludiant i gleifion?

Cludiant Cleifion i Wasanaethau Ysbytai yng Nghymru a rhannau o Loegr*
(Ysbyty Brenhinol Amwythig / Ysbyty'r Dywysoges Frenhinol)
Ffoniwch Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar 0300 123 2303

Cludiant Cleifion i Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt
Ffoniwch E-zec ar 0300 777 0077

Cludiant Cleifion i Ysbytai a Chlinigau yn Swydd Henffordd
Ffoniwch Hwb Therapïau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01686 613200

*Os nad yw eich cyrchfan wedi'i rhestru uchod, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar 0300 123 2303

Canslo Trafnidiaeth

Mae hyd at 100,000 o siwrneiau Cludiant Cleifion Di-frys bob blwyddyn yn arwain at y claf yn peidio teithio neu ddim yn y man casglu pan fydd ein criwiau'n cyrraedd. Mae canslo cludiant, os nad oes ei angen mwyach, yn bwysig iawn ac mae'n caniatáu i'r Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys gynnig y slot i glaf arall.

Os ydych chi'n gymwys ac yn bwcio cludiant ond bod angen i chi ganslo, ewch i wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng (NEPTS) - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru neu ffoniwch 0300 123 2303.

 

Ydw i’n gallu hawlio rhai o’r costau teithio yn ôl os gwrthodir cludo cleifion ac mae’n rhaid i mi ddod o hyd i’m ffordd fy hun i fy apwyntiad gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Efallai y byddwch yn gallu hawlio rhywfaint o'r costau teithio, neu'r holl gostau, oddi wrth eich bwrdd iechyd lleol os ydych yn cael unrhyw rai o'r canlynol;

  • Budd-dal incwm;
  • Lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar yr incwm;
  • Credyd treth gwaith neu gredydau treth plentyn, neu;
  • Cynnal HC2 neu HC3

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun costau teithio gofal iechyd ewch i Cymorth gyda chostau teithio’r GIG | LLYW.CYMRU

Rhannu:
Cyswllt: