Neidio i'r prif gynnwy

Achosion o'r Frech Goch ar gynnydd: ydy'ch plentyn wedi ei amddiffyn?

Bachgen bach yn chwarae gyda tegan trên

Yn y DU, mae achosion o’r Frech Goch yn cynyddu. Gall y frech goch fod yn glefyd difrifol iawn ac achosi cymhlethdodau difrifol, sy’n gallu peryglu bywyd. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn cael ei amddiffyn – mae byth yn rhy hwyr i’w frechu!

Mae angen 2 ddos o'r brechlyn MMR ar gyfer amddiffyniad 95% yn erbyn y frech goch. Os nad ydych yn siŵr o statws brechu eich plentyn, gallwch wirio drwy'r llwybrau canlynol:

  • Mae manylion imiwneiddio ar gael yn Llyfr Coch eich plentyn
  • Ffoniwch 01874 442 510 (Llun-Gwener 11yb-4yh)

Os nad yw'ch plentyn wedi'i frechu'n llawn, ac nad ydych eisoes wedi gwneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu ar gyfer brechiad MMR, gallwch gael mynediad i un o'n sesiynau galw-heibio yn ein canolfannau brechu yn ystod hanner tymor. Ar gael yn:

  • Canolfan Frechu Ysbyty Bronllys Dydd lau 2 Mai: 11.30yb-2.00yp a 3.00yp-6.30yh a

    Dydd Gwener 3 Mai: 9.30yb – 12.30yp a 1.30yp – 4.30yp

  • Canolfan Ddydd Stryd y Parc, y Drenewydd Dydd Llun 29 Ebrill: 9.30yb-12.30yp a 1.30yp-4.30yp

    Dydd Mercher 1 Mai: 11.30yb-2.00yp a 3.00yp-6.30yh a Dydd Iau 2 Mai: 9.30yb-12.30yp a 1.30yp-4.30yp

  • Neuadd Sgowtiaid COWSHAAC, Y Trallwng - Dydd Mawrth 30 Ebrill: 10.15yb-12.15yp a 1.15yp-3.45yp

  • Clwb Rygbi Ystradgynlais - Dydd Mercher 1 Mai: 10.45yb-12.15yp a 1.15yp-3.15yp

  • Ysbyty Bro Ddyfi - Dydd Mercher 1 Mai: 10.45yb-12.15yp a 1.15yp-3.15yp

  • Neuadd y Pentref Howey - Dydd Llun 29 Ebrill a Dydd Mawrth 30 Ebrill 10.30yb-12.30yp a 1.30yp-3.30yp

  • Canolfan Gymunedol Knucklas - Dydd Gwener 3 Mai: 10.30yb-12.30yp a 1.30yp-3.30yp

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Frech Goch, ewch i: GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Y frech goch (wales.nhs.uk)

 

Rhyddhawyd: 26/04/2024

Rhannu:
Cyswllt: