Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad ar y cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant yn cael ei groesawu gan y bwrdd iechyd

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi croesawu adroddiad i drefniadau amddiffyn plant yn y sir yn dilyn archwiliad amlasiantaethol. 
 
Ym mis Hydref 2023, cynhaliwyd Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) gan Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru (Estyn), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi. 
 
Gwerthusodd sut mae'r bwrdd iechyd, Cyngor Sir Powys a Heddlu Dyfed Powys yn ymateb i gamdriniaeth ac esgeulustod plant ym Mhowys. 
 
Canfu'r arolygiad ar y cyd lawer o gryfderau yn yr holl wasanaethau a gwnaeth argymhellion lle teimlwyd y gellid gwneud gwelliannau. 
 
Dywedodd Claire Roche, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Canfu'r arolygiad hwn lawer o gryfderau yn y ffordd y mae staff y bwrdd iechyd, awdurdodau lleol a’r heddlu yn gweithio gyda'i gilydd i gadw plant yn ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Mae hyn yn dyst i ymroddiad ac ymrwymiad staff ar draws pob sefydliad partner. 

Fel Bwrdd Iechyd, rydym wedi croesawu'r arolygiad hwn fel cyfle gwerthfawr ar gyfer dysgu a gwella, i'n helpu gweithio gydag asiantaethau partner i amddiffyn plant Powys. Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion defnyddiol iawn, ac ynghyd â Chyngor Sir Powys a Heddlu Dyfed Powys, rydym yn datblygu cynllun gweithredu i ymateb i'r canfyddiadau allweddol." 

Mae'r adroddiad Arolygu ar y Cyd ar gael o wefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Rhannu:
Cyswllt: