Neidio i'r prif gynnwy

BIAP yn croesawu datblygiadau mewn Rhaglen Trawsnewid Ysbytai yn Amwythig a Telford

Golygfa uwchben Ysbyty Amwythig a Telford

"Mae'r cyhoeddiad heddiw bod yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Rhaglen Trawsnewid Ysbytai wedi'i gymeradwyo yn gam hanfodol ymlaen ar gyfer dyfodol gwasanaethau ysbyty acíwt diogel a chynaliadwy i'r rhanbarth.

"Mae ein cymunedau gwledig, yn enwedig yng Ngogledd Powys, yn parhau i fod yn ddibynnol ar Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford am ystod eang o wasanaethau brys a gwasanaethau wedi'u cynllunio,  yn enwedig ar gyfer mynediad hanfodol i ofal achub bywyd. Rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth o hyn yn y gwaith parhaus gan yr Ymddiriedolaeth ar y Rhaglen Trawsnewid Ysbytai, ac yn argymhelliad Panel Ad-drefnu Annibynnol Llywodraeth y DU bod 'rhaid i anghenion gofal iechyd trigolion y canolbarth barhau i gael eu hystyried fel rhan o Raglen Trawsnewid Ysbytai Amwythig a Telford'.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r Ymddiriedolaeth i ddatblygu'r Achos Busnes Llawn fel cam olaf y broses."

Hayley Thomas, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae mwy o wybodaeth am gymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford

Mae mwy o wybodaeth am adroddiad y Panel Ad-drefnu Annibynnol ar gael ar wefan Llywodraeth y DU

 

Rhyddhawyd: 05/01/2024

Rhannu:
Cyswllt: