Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn croesawu Prif Swyddog Gweithredol newydd

Llun o Hayley Thomas

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Hayley Thomas fel ei Brif Swyddog Gweithredol newydd.

Mae Hayley wedi bod yn rôl Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro ers i Carol Shillabeer symud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y llynedd ac yn dilyn ymgyrch recriwtio helaeth, mae Hayley bellach wedi'i phenodi'n Brif Weithredwr parhaol.

Fel Prif Swyddog Gweithredol BIAP, bydd Hayley yn arwain gweledigaeth y bwrdd iechyd wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal rhagorol i bobl Powys, mewn partneriaeth â chymunedau lleol, gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill. Bydd hefyd yn goruchwylio'r gwaith o weithredu rhaglen trawsnewid y bwrdd iechyd, sy'n ceisio gwella mynediad, ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau ar draws Powys.

Nid yw rheoli newid a gwelliant yn beth newydd i Hayley, ar ôl ymuno â'r bwrdd iechyd yn 2013 fel Pennaeth Rheoli Rhaglenni, bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Chyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl cyn ymgymryd â’i rôl fel Prif Swyddog Gweithredol dros dro.

Dywedodd Carl Cooper, Cadeirydd BIAP, "Rwy'n falch iawn o gadarnhau penodiad Hayley Thomas fel Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd sgiliau, gwybodaeth, profiad ac arbenigedd sylweddol Hayley yn sail i'w harweinyddiaeth effeithiol a'i rheolaeth o ofal iechyd ym Mhowys. Mae hi'n berson sydd â gweledigaeth greadigol ac eglurder strategol gyda ffocws ar weithredu a chyflawni. Mae'r GIG ym Mhowys, fel mewn mannau eraill, yn wynebu llawer o heriau. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Hayley, ochr yn ochr â chydweithwyr BIAP, partneriaid a phobl Powys, wrth i ni ymateb i'r heriau hyn gyda gobaith a hyder."

Dywedodd Hayley "Mae'n fraint cael arwain y bwrdd iechyd. Er bod y GIG yn wynebu heriau, mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu a gwella gwasanaethau yn barhaus i bobl Powys ac rwy'n falch o fod yn rhan o'r broses hon. Nod ein rhaglen 'Gwell gyda’n Gilydd' yw sicrhau bod y bwrdd iechyd yn parhau i weithio gyda'r Cyngor Sir, y sector gwirfoddol a rhanddeiliaid eraill i wella iechyd a lles ar draws yr ardal er budd pawb ac mae'n anrhydedd i mi barhau â'r gwaith hwn fel Prif Swyddog Gweithredol.

Rwy'n falch o’r ymroddiad sydd gan staff i gleifion, i'w gilydd ac i'n sefydliad. Fy nod yw cefnogi cydweithwyr yn eu gwaith hanfodol.

Rwy'n angerddol dros gydweithio â'r holl bartneriaid a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, i ddarparu'r gofal gorau posibl ac i wella iechyd a lles yn y tymor hir."

 

Rhyddhawyd: 23/02/2024

 

Rhannu:
Cyswllt: