Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd iechyd Powys yn diolch i gydweithwyr Ymddiriedolaeth GIG Sir Amwythig

Golygfa uwchben Ysbyty Amwythig a Telford

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi diolch i'w gydweithwyr dros y ffin yn Lloegr am ddarparu sesiwn ymgysylltu galw heibio yn Y Drenewydd yr wythnos diwethaf.

Daeth y tîm o Ymddiriedolaeth GIG Amwythig ac Ysbyty Telford (SATH) i ymweld â Thŷ Ladywell i roi cyfle lleol i bobl y canolbarth siarad yn bersonol am gynlluniau'r ymddiriedolaeth ar gyfer eu safleoedd yn Amwythig a Telford.

Stephen Powell yw Cyfarwyddwr Perfformiad a Chomisiynu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Nododd: "Hoffwn ddiolch i dîm SATH am roi cyfle i'n trigolion siarad am eu cynlluniau Rhaglen Trawsnewid Ysbytai, a fydd yn gweld Ysbyty Brenhinol Amwythig yn arbenigo mewn gofal brys ac Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn arbenigo mewn gofal wedi'i gynllunio."

"Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a ddaeth draw i'r sesiwn galw heibio a gobeithio roedd eu hymweliad yn ddefnyddiol iddyn nhw" meddai Mr Powell. "Rwy'n gwybod bod gan SATH gynlluniau i wneud mwy o waith ymgysylltu wyneb yn wyneb am eu cynlluniau yng ngogledd Powys yn y dyfodol a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw i ledaenu'r gair am y dyddiad a'r lleoliad, pan fyddant yn gwneud hynny."

Ychwanegodd Mr Powell fod Rhaglen Lles Gogledd Powys (partneriaeth rhwng y bwrdd iechyd â Chyngor Sir Powys), wrthi'n archwilio sut y gall ddarparu gwasanaethau mewn partneriaeth â SATH yng ngogledd y sir.

Dywedodd Rachel Webster, Arweinydd Rhaglen Trawsnewid Ysbyty Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig ac Telford: "Ar ran fy nghydweithwyr, hoffwn ddiolch i BIAP ac aelodau'r cyhoedd a fynychodd y sesiwn am groeso cynnes.

Bydd y Rhaglen Trawsnewid Ysbyty yn gwella gofal i'r holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu, sy'n cynnwys trigolion Powys. Byddwn yn parhau i ymgysylltu a chyfathrebu â phreswylwyr o bob cwr o'r ffin mewn person ac ar-lein fel y gallant lywio ein cynlluniau wrth iddynt symud ymlaen."

Mae SATH hefyd yn darparu nifer o gyfleoedd eraill i bobl gymryd rhan yn eu rhaglen ymgysylltu yn y Rhaglen Trawsnewid Ysbytai - gan gynnwys grwpiau ffocws ar-lein - ac mae manylion y rhain ar gael yn https://www.sath.nhs.uk/about-us/get-involved/public-participation-2/get-involved-with-us-2/htp-focus-groups/

Mae'r gyfres nesaf o grwpiau ffocws ar-lein ym mis Mawrth, ond gallwch weld cyflwyniadau a chwestiynau ac atebion o ddigwyddiadau blaenorol trwy'r ddolen hon. Maen nhw hefyd yn cynnal digwyddiad iechyd ar-lein 'About Health' sy'n canolbwyntio ar Raglen Trawsnewid Ysbytai ar 30 Ionawr, 6.30pm – 7.30pm, ac mae croeso i bawb fod yn bresennol.

Rhannu:
Cyswllt: