Neidio i'r prif gynnwy

Byrddau cyfathrebu cynhwysol wedi'u gosod mewn maes chwarae Talgarth

Tara Louviere-Cowen, Jackie Perola, Stephen Butcher, William Powell, Sophie a Jess Powell ym maes chwarae Talgarth

Mis diwethaf cafodd y byrddau cyfathrebu diweddaraf eu gosod ym maes chwarae Woodlands Avenue yn Nhalgarth. 

Mae'r ddau fwrdd yn rhan o gyfres o fyrddau sy'n cael eu gosod mewn tua 50 parc ar draws y sir. 

Mae'r byrddau yn defnyddio Makaton a symbolau cyfathrebu i helpu plant ifanc a'r rhai sydd ag anghenion cyfathrebu ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ac yn caniatáu i eraill fod yn fwy cynhwysol wrth gyfathrebu â phobl. 

Mae'r byrddau wedi cael eu darparu mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys a Siarad â Fi, menter gan Lywodraeth Cymru.

Mae Makaton yn system cyfathrebu sy’n defnyddio geiriau allweddol ochr yn ochr â lleferydd. Mae'n ffordd wych o gefnogi pob babi a phlentyn i ddatblygu eu sgiliau iaith. Yn Makaton rydyn ni dim ond yn arwyddo'r geiriau pwysicaf mewn brawddeg tra byddwn yn siarad. Mae dros 100,000 o bobl yn defnyddio Makaton naill ai fel eu prif ddull o gyfathrebu neu fel ffordd o gefnogi eu lleferydd.

I’r digwyddiad daeth Uwch Therapydd Iaith a Lleferydd Tara Louviere-Cowen, Jackie Perola aelod sefydliadol Grŵp Adnewyddu Maes Chwarae Woodlands Avenue, Stephen Butcher sy’n Rheolwr Cefn Gwlad a Hamdden Awyr Agored CSP, Cynghorydd Sir Talgarth William Powell yn ogystal â phlant lleol, Sophie a Jess Powell.

 

 

Cyhoeddwyd: 30/08/23

Rhannu:
Cyswllt: