Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion yn dechrau defnyddio cyfleusterau newydd ym Machynlleth

Mae cleifion nawr yn dechrau defnyddio cyfleusterau newydd eu gwedd yn Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi, gyda diolch i gyllid £15m gan Lywodraeth Cymru.

Diwedd mis Ebrill, symudodd Meddygfa Iechyd Bro Ddyfi ar draws y ffordd i adeilad newydd yr ysbyty, a bellach yn gweithredu allan o’i chartref newydd.

Meddai Hayley Thomas, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am roi’r cyllid i ni ddatblygu Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi mewn ffordd a fydd yn darparu gwell mynediad i feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn cyfleusterau cyfoes o'r radd flaenaf."

"Drwy ddod â gwasanaethau meddygon teulu at ei gilydd gyda therapi, gofal cymdeithasol, y gymuned a'r trydydd sector gallwn weithio i ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy i bobl Bro Ddyfi."

Ychwanegodd Dr Sara Bradbury-Willis, partner meddyg teulu yn Iechyd Bro Ddyfi: "Ers dod yn Iechyd Bro Ddyfi chwe blynedd yn ôl, rydym wedi edrych ymlaen at alw Ysbyty Cymuned Bro Dyfi yn gartref newydd, i ddarparu gofal iechyd i'n poblogaeth wledig mor nes at adref â phosibl.

"Rydym yn gyffrous i fod dan yr un to gyda'n cydweithwyr yn y gymuned a gallwn weld y bydd y berthynas agos hon yn ffactor cadarnhaol yn ein gofal i gleifion. Gan ein bod hefyd yn bractis hyfforddi ar gyfer meddygon teulu, rydym yn gobeithio cynyddu amlygiad gofal iechyd gwledig ar gyfer meddygon teulu yn y dyfodol."

Bydd gwasanaethau eraill (gan gynnwys deintyddiaeth gymunedol a phodiatreg) yn dechrau gweithredu o'r cyfleusterau newydd yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yr ysbyty hefyd yn cynnwys caffi o fewn y dderbynfa, sy'n bwriadu agor yn fuan.

Mae lles cymunedol yn ganolog i'r prosiect gyda'r bwrdd iechyd yn cydweithio â'r sector gwirfoddol i ddarparu gwasanaethau lles o fewn yr adeilad. Yn ogystal, mae'r bwrdd iechyd wedi comisiynu gwaith celf gan yr artistiaid Erin Hughes, Di Ford, Gemma Rose Green-Hope a Jim Bond, sy'n ymddangos y tu mewn i'r adeilad a'r tu allan yn y gerddi cymunedol.

Mae'r cyllid hefyd wedi galluogi'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â nifer o faterion cynnal a chadw adeiladau yn ysbyty Machynlleth yn ogystal â gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Tîm Iechyd Dyffryn Dyfi, gyda Dr Bradbury-Willis (dde cefn), yn eu cartref newydd

 

Rhyddhawyd: 17/05/2023

Rhannu:
Cyswllt: