Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod y Bwrdd yn gyhoeddus yn trafod cais i gau Meddygfa Cangen Belmont

Diweddariad 18 Mai 2023

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried y cais a dderbyniwyd gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Belmont yng Ngilwern mewn cyfarfod cyhoeddus (ar-lein) am 9.30yb ar ddydd Mercher 24 Mai 202.

Pan fyddwn yn derbyn ceisiadau o'r fath, maen nhw’n cael eu hystyried yn unol â'n proses adolygu meddygfeydd cangen, sy’n cynnwys cyfnod ymgysylltu a gynhaliwyd rhwng 10 Ionawr 2023 a 6 Mawrth 2023. Roeddem yn ddiolchgar iawn i dros 700 o gleifion a rhanddeiliaid ehangach a rannodd eu barn fel rhan o'r ymgysylltiad hwnnw. Crynhowyd yr adborth a gawsom yn yr adroddiad ymgysylltu a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ar ein hyb ymgysylltu yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/gilwern. Bydd fersiwn o'r adroddiad hwn wedi'i diweddaru yn cael ei gynnwys ym mhapurau ein Bwrdd.

Yn dilyn y gwaith ymgysylltu, mae'r cais gan y practis a'r ymateb gan gleifion a rhanddeiliaid wedi cael ei ystyried gan ein Panel Adolygu Meddygfeydd Cangen. Rhoddodd y Panel ystyriaeth ofalus a diwyd i'r holl wybodaeth oedd ar gael a daeth i'r farn nad oedd unrhyw ddewisiadau amgen posibl ac felly argymhellir derbyn y cais. Felly, byddant yn argymell hyn i'r Bwrdd yn ei gyfarfod yr wythnos nesaf.

Mae'n amlwg nid oedd yr argymhelliad hwn yn hawdd ei wneud, yn enwedig gan gydnabod cryfder teimladau a barn y gymuned am effaith bosibl cau'r feddygfa. Yn amlwg os yw'r argymhelliad yn cael ei dderbyn gan y Bwrdd byddwn yn dymuno sicrhau bod cynllun lliniaru cadarn ar waith sy'n ymateb i'r materion a'r pryderon.

Bydd copi o'r papurau ar gael cyn y cyfarfod o'n gwefan yn  https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd/cyfarfodydd-y-bwrdd/.

Mae ein cyfarfodydd Bwrdd yn cael eu cynnal ar-lein trwy Microsoft Teams ar hyn o bryd, a bydd y dudalen hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i ymuno.

Rhannu:
Cyswllt: