Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru: Ffioedd deintyddol y GIG i gynyddu o fis Ebrill

Bydd cost triniaeth ddeintyddol y GIG yng Nghymru yn cynyddu o 1 Ebrill 2024.

Dyma'r cynnydd cyntaf mewn ffioedd deintyddol ers mis Ebrill 2020 ac ar y cyfan maent yn parhau i fod yn is nag yn Lloegr. Bydd unrhyw refeniw a gynhyrchir o'r ffioedd uwch hyn yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i wasanaethau deintyddol y GIG.

O fis Ebrill 2024, bydd y tair ffi safonol yn cynyddu i rhwng £20.00 a £260.00 yn dibynnu ar y math o driniaeth sydd ei hangen a bydd cost triniaeth frys yn cynyddu i £30.00.

Ar hyn o bryd mae tua 50% o bobl yn cael triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim yng Nghymru. Mae'r rhai sy'n gymwys i gael triniaeth am ddim yn cynnwys plant o dan 18 oed neu'r rhai sy'n 18 oed ac mewn addysg llawn amser, menywod beichiog neu'r rhai sydd wedi cael babi o fewn 12 mis i ddechrau'r driniaeth, unrhyw un sy'n cael triniaeth ddeintyddol mewn ysbyty a phobl ar rai budd-daliadau penodol.

Yn ogystal, mae'r cynllun incwm isel yn cynnig cymorth llawn, neu gymorth rhannol, gyda chostau iechyd, yn dibynnu ar amgylchiadau'r unigolyn.

Ble i gael rhagor o wybodaeth am daliadau deintyddol
Gyda phwy i gysylltu os oes angen deintydd arnoch

Os ydych yn byw ym Mhowys, neu os ydych wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys, a bod angen help arnoch i ddod o hyd i Feddyg Teulu, ffoniwch Linell Gymorth Deintyddol Powys ar 01686 252 808.

Gyda phwy i gysylltu os oes gennych chi argyfwng deintyddol

Os oes gennych chi argyfwng deintyddol ac nad oes gennych chi Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol, ffoniwch GIG 111 yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Os oes gennych ddannoedd neu broblemau deintyddol eraill gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar wefan GIG 111 Cymru .

 

Rhyddhawyd: 25/03/2024

Rhannu:
Cyswllt: