Neidio i'r prif gynnwy

Dros 300 yn cofrestru i helpu mewn canolfannau brechu torfol yn 'brif leoliad gwirfoddoli Cymru'

Mae byddin o wirfoddolwyr yn helpu i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn ddidrafferth yn nhair canolfan frechu dorfol Powys.

Mae cyfanswm o 180 ar y rota i helpu yn y safleoedd yn y Drenewydd, Llanelwedd a Bronllys, wrth i'r sir a'r wlad, wynebu eu her iechyd cyhoeddus fwyaf mewn canrif, ac mae 132 arall wrth gefn i ddarparu cymorth os oes angen.

Fodd bynnag, nid oedd yr ymateb gwych i'r apêl am gymorth gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn annisgwyl, oherwydd ers dechrau'r pandemig coronafeirws mae 1,689 o wirfoddolwyr newydd wedi’u recriwtio yn y sir.

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) fu’n arwain yr ymgyrch hon gan gydweithio’n gyda BIAP a Chyngor Sir Powys (CSP) i sicrhau bod cymorth ar gael lle bo angen.

Mae'r tri chorff yn awyddus i ddweud diolch i bawb sydd wedi camu ymlaen i roi eu cymorth yn ystod y pandemig – p'un a ydynt wedi bod yn helpu mewn safleoedd brechu a phrofi neu’n casglu meddyginiaethau a bwyd i gymdogion bregus.

Meddai Carl Cooper, Prif Weithredwr PAVO: "Rydym am ddathlu'r gwaith sydd wedi'i gyflawni gyda chymorth cynifer o wirfoddolwyr ledled Powys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Dyma rai o arwyr niferus y pandemig hwn hyd yn hyn, a byddant yn parhau i fod am lawer mwy o fisoedd i ddod.

"Mae gan y sir hon draddodiad balch o wirfoddoli, ac mewn gwirionedd byddwn i'n mynd mor bell â dweud bod gwirfoddoli a helpu yn rhan o feddylfryd llawer o'n trigolion.  Mae'r niferoedd y gallwn eu recriwtio yn anhygoel ac yn gwneud Powys yn brif leoliad gwirfoddoli Cymru."

Adroddodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn 2020 mai Powys oedd â'r nifer fwyaf o elusennau fesul y pen o'r boblogaeth o bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gydag 16.8 elusen i bob 1,000 o bobl.

Mae ganddi 4,040 o grwpiau cymunedol a gwirfoddol, 22,313 o ymddiriedolwyr a 26,346 o wirfoddolwyr pellach mewn rolau eraill.  Mae eu hamser gwerth £129.1 miliwn y flwyddyn. Maent yn llwyddo i ddenu gwerth £57 miliwn o gyllid i'r sir a rhoi hwb economaidd o £173.6 miliwn.

"Mae'r gwirfoddolwyr sydd wedi cefnogi'r gwasanaeth iechyd ym Mhowys dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn wych," meddai Prif Weithredwr BIAP, Carol Shillabeer. "Pryd bynnag ry’n ni wedi bod angen help, mae e wedi bod ar gael.

"Maen nhw wedi ymddwyn mewn modd proffesiynol ac wedi ategu gwaith ein haelodau staff cyflogedig, gan ddarparu gwasanaethau ychwanegol sydd yn eu tro yn rhyddhau ein gweithwyr iechyd i wneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud orau sef gofalu am iechyd eu cleifion.

"Yn y pandemig hwn rydym wedi cael gweithwyr allweddol a gwirfoddolwyr allweddol."

Ychwanegodd y Cyngh. Graham Breeze, Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol CSP: “Dw’i wedi gweld fy hunan yn fy nghymuned i y pethau gwych y gall gwirfoddolwyr ein helpu i'w cyflawni ac mae hynny wedi'i ailadrodd ar draws y sir yn ystod y pandemig hwn.

"Mae llawer o gynghorwyr sir wedi bod ar y rheng flaen yn gwirfoddoli eu hunain – felly maen nhw'n gwybod beth sydd ei angen – a hoffwn i, a'm cydweithwyr, ddiolch yn fawr iawn i bawb ym Mhowys sydd wedi camu ymlaen. Ni allem fod wedi gwneud hebddo’ch chi, a bydd angen eich cefnogaeth arnom o hyd yn y dyfodol."

Os hoffai unrhyw un gynnig eu gwasanaethau fel gwirfoddolwr yn ystod y pandemig, neu ar unrhyw adeg arall, gallant gysylltu â PAVO ar: 01597 822191 neu ewch i Ganolfan Wirfoddoli Powys ar ei wefan www.pavo.org.uk

PAVO hefyd yw'r sefydliad i fynd iddo os ydych yn bwriadu recriwtio gwirfoddolwyr neu os ydych am gael cymorth llywodraethu ar gyfer eich grŵp gwirfoddol eich hun.

Mae cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli hefyd ar gael ar wefan Gwirfoddoli Cymru volunteering-wales.net/

Rhannu:
Cyswllt: