Neidio i'r prif gynnwy

Ewch Am Dro

Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu Cerddwyr Cymru Brân Devey ar ben bryn

Mae Cerddwyr Cymru yn annog pobl i wneud y cam cyntaf a mynd allan i wella eu hiechyd meddwl a'u lles.

Trwy gefnogi Ymgyrch Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae’r sefydliad yn annog trigolion Powys a’r ardaloedd cyfagos i archwilio'r llwybrau hardd, coedwigoedd, llwybrau arfordirol a'r cymoedd sy'n cysylltu'r sir.

Mae Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu Cerddwyr Cymru Brân Devey yn gobeithio y bydd pobl yn ymuno ag un o nifer o grwpiau cerdded lleol, neu gyfarfod yn ddiogel y tu allan gyda ffrindiau a theulu i fynd i'r afael ag unigedd:

"Mae bod yn heini bob dydd wedi bod yn anodd yn ystod y cyfnod hwn, ac i rai mae'n fater o ddechrau eto, magu hyder ac yn llythrennol, rhoi un droed o flaen y llall" meddai.

"Gyda'r GIG dan fwy o straen yn ystod misoedd y gaeaf mae'n bwysig bod yn ofalus iawn wrth gerdded, gwisgo'r esgidiau cywir, gwisgo’n gynnes a sicrhau bod gennych yr offer addas – rhaid i chi wybod eich cyfyngiadau. Mae'r canllawiau Adventure Smart ar-lein yn ddefnyddiol iawn.

"Ac o safbwynt ymwybyddiaeth ofalgar ac iechyd meddwl mae'n hanfodol ein bod yn cadw'n heini; mae mynd am dro yn gwneud byd o les a gallwch wneud hynny o'ch stepen drws. Nid yw'n costio dim byd ac mae gan bawb Everest eu hunain i'w ddringo, boed yn fynydd lleol, yn barc cenedlaethol neu'n llwybr arfordirol."

Yn wreiddiol o Fethesda, Eryri, ond bellach wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ychwanegodd Brân:

"Mae cerdded ochr yn ochr ag eraill lle bo hynny'n bosibl yn ffordd wych o rannu unrhyw broblemau a allai fod gennych, cymerwch yr amser i ofyn i bobl sut maen nhw'n gwneud a gofalu drosoch chi eich hun, gall fod yn hollbwysig yn ystod y cyfnod hwn.

"Bydd hyn i gyd yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar ein hysbytai a'n meddygon teulu, ond nid oes rhaid iddo olygu gorwneud. Mae bod ym myd natur, mwynhau golygfeydd a chlywed synau'r ardal leol - heddwch a thawelwch - i gyd yn chwarae rhan yn eich helpu i ymlacio.

“Ym Mhowys, mae sawl ardal wych i ymweld ag, o’r Mynyddoedd Du i Lyn Efyrnwy, i Gwm Elan ac wrth gwrs Llwybr Clawdd Offa a Llwybrau Cenedlaethol Glyndŵr.

“Fel sefydliad, rydym wedi gweld cymaint o bobl yn darganfod yr awyr agored, yn mentro allan gyda'u teulu neu 'swigod' i fynd am dro pan nad oedden nhw efallai wedi gwneud o'r blaen. Dyna un arfer rydyn ni'n gobeithio ei weld yn parhau oherwydd mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd a lles."

Mae Chris Jones, 81, o Garth, ger Llanfair-ym-muallt yn aelod o Gerddwyr Powys:

“Rydw i ar hyn o bryd yn gwneud teithiau cerdded o tua pump i chwe milltir. I mi, y cwmni sy’n bwysig a mynd allan i wneud ymarfer corff. Rydw i’n byw ar ben fy hun felly mae’n braf cwrdd â phobl newydd. Rydw i’n hoffi teithiau cerdded gydag amrywiaeth felly cymysgedd o olygfeydd – dyffrynnoedd, cyrsiau dŵr a phwyntiau o ddiddordeb ar hyd y ffordd.

"Mae sawl grŵp cerdded ym Mhowys a gallwch ddod o hyd iddyn nhw ar wefan Cerddwyr Cymru. Mae rhaglennu hefyd yn cael eu cynnal sy’n amrywio o ran hyd.”

Dywedodd Louisa Kerr, Pennaeth Gweithrediadau Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Gall hyd yn oed taith gerdded fer neu ymarfer corff yn yr awyr agored wneud gwahaniaeth mawr o ran gwella ein lles.

"Ledled y sir, mae gennym gymaint o deithiau cerdded hardd o wahanol hydoedd a lefelau, felly mae rhywbeth ar gael i bawb pawb. Fel y dywedodd Brân, bydd mynd am dro yn gwneud y byd o les wrth glirio'r meddwl a chyflwyno teimladau o bositifrwydd tra hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y galon, pwysedd gwaed ac wrth gefnogi rheoli pwysau iach.

"Dyma'r ffordd berffaith o ofalu dros eich hun ac mae wedi bod yn fuddiol iawn i lawer o deuluoedd ac unigolion drwy gydol y pandemig."

Ewch i https://www.ramblers.org.uk/wales.aspx neu dilynwch eu cyfryngau cymdeithasol am newyddion a gwybodaeth gan Gerddwyr Cymru, yn ogystal â manylion am grwpiau a theithiau cerdded yn eich yn eich ardal leol.

Os ydych chi'n teimlo'n isel neu yn cael trafferth, cysylltwch â'r Llinell Gymorth CALL am gymorth gwrando ac emosiynol cyfrinachol. Mae llinellau ar agor 24/ 7ar 0800 132 737 neu tecstiwch ‘help’ i 81066.

Defnyddiwch y hashnodau #HelpuNiHelpuChi a #HelpUsHelpYou i gefnogi’r ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi.

WYTH TAITH GERDDED Y GALLWCH ROI CYNNIG ARNI YM MHOWYS.

Mae gwledd o deithiau cerdded gyda golygfeydd anhygoel ym Mhowys. Dyma ein wyth gorau:

Pen y Fan

Rhaid mai prif drysor Powys ydy Pen y Fan. Mae Croeso Cymru yn tynnu sylw at bedwar llwybr o'r enw Y Daith Braf, Arwrol, Tawel a Chaled. Dewiswch lwybr sy’n addas i chi: https://www.croeso.cymru/cy/pethau-iw-gwneud/antur-gweithgareddau/cerdded/codi-ir-brig-pedair-ffordd-o-gerdded-i-gopa-pen-y-fan

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Llwybr 800 mlwydd oed sy'n cynnwys clawdd gwych sy'n rhedeg tua 176 milltir ar hyd ffin Cymru a Lloegr. Peidiwch â phoeni, nid oes rhaid i chi wneud yr her lawn. Rhannwch y llwybr mewn i fân ddarnau neu dewiswch un o’r mannau a mwynhewch un o'r llwybrau cylchol a llinol niferus sydd ar gael. Llwybr Clawdd Offa - Teithiau Cerdded Cylchol a Llinol - National Trails

Cwm Elan

Ydych chi'n awyddus i fynd am dro hamddenol neu heic heriol, os ydych mae gan Elan rywbeth at ddant pawb. Mae Llwybr Cwm Elan yn ffefryn arbennig gyda'i lwybrau arwynebol sy'n ei gwneud yn addas ar gyfer cerddwyr, marchogion a beicwyr ac mae'n addas ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn.

Dyffryn Gwy

Os ewch ar hyd y darn o Lanfair-ym-Muallt i'r Bontnewydd ar Wy gallwch weld golygfeydd hyfryd o fryniau tonnog.

Llyn Efyrnwy

Nifer o lwybrau cerdded cylchol hamddenol sy’n un filltir i lwybrau coedwig gyda dringfeydd anodd. Golygfeydd anhygoel o’r llyn.

Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr

Dathlwch ddiwylliant a hanes naturiol Cymru trwy ddilyn olion traed Owain Glyndŵr ar y daith heddychlon hon. Mae'r llwybr yn cychwyn wrth Gloc y Dref yn Nhrefyclo ac yn gorffen wrth y gamlas yn y Trallwng felly dewiswch ddarn o’r llwybr sy'n addas i chi.

Dylife

Ewch i’r Star Inn ger Machynlleth ar gyfer rhaeadrau godidog a llwybrau cerdded ceunentydd.

Ffordd Epynt

Os ydych yn chwilio am daith cerdded ymhell i ffwrdd o'r torfeydd, ewch i Ffordd Epynt.  Mae'n croesi rhannau o weundir uchel a chymoedd afonydd dwfn.

www.epyntway.org

 

Cyhoeddwyd: 11/03/2022

Rhannu:
Cyswllt: