Neidio i'r prif gynnwy

Ffocws Cymunedol Tref-y-clawdd a Dwyrain Maesyfed - Rhifyn 6

(Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ddatblygiadau i wasanaethau’r GIG yn Nhref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed, gan gynnwys Ysbyty Cymunedol Tref-y-clawdd.)

 

 

Gardd synhwyraidd newydd yn Ysbyty Tref-y-clawdd diolch i Gynghrair y Cyfeillion

Mae staff Ysbyty Cymunedol Tref-y-clawdd wedi canmol eu Cynghrair Cyfeillion lleol am eu rhodd garedig i dalu am gost gardd synhwyraidd newydd i gleifion, preswylwyr, staff ac ymwelwyr.

Bellach mae seilwaith yr ardd - palmentydd, planwyr blodau a graean wedi eu gosod gan gontractwyr ac mae plannu yn y gwelyau blodau yn dechrau’n fuan.

Estynnodd Christina Creemer (uchod ar a y dde) o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ddiolch i'r grŵp: "Ni allwn ddiolch digon i'n Cynghrair y Cyfeillion lleol. Diolch i'w rhodd rydym wedi gallu cael rhywun i mewn i wneud ardal a oedd unwaith yn edrych yn flinedig, nawr yn le croesawgar a fydd yn anhygoel unwaith y bydd y blodau yn y planwyr yn blodeuo."

Dywedodd Ymddiriedolwr Cynghrair y Cyfeillion, Rebe Brick: "Rydym yn falch iawn o allu trosglwyddo'r rhoddion gan aelodau o'n cymuned i wella'r cyfleusterau yn Ysbyty Tref-y-clawdd fel hyn."

Bydd yr ardd newydd at ddefnydd pobl yn y ward mamolaeth, yn defnyddio'r pum gwely ailalluogi, sy'n byw yn Cottage View, i staff yr ysbyty yn ogystal â chleifion sy'n mynychu apwyntiadau cleifion allanol yn yr ysbyty.

 

Sicrwydd dros ddyfodol yr ysbyty

Mae Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi symud i dawelu meddyliau trigolion yr ardal dros ddyfodol yr ysbyty.

Dywedodd David Farnsworth: "O bryd i'w gilydd rwy'n dal i glywed pobl yn dweud bod Ysbyty Tref-y-clawdd wedi cau. Wel, byddai hynny'n newyddion i'r holl staff clinigol sy'n gweithio - ac a fydd yn parhau i weithio - yno."

"Mae nifer o glinigau cleifion allanol yn cael eu cynnal yn ysbyty Tref-y-clawdd ac rydym yn edrych i gynyddu nifer ac ystod y clinigau. Mae gennym uned famolaeth ac mae Mamau lleol yn parhau i eni eu babanod yn lleol. Yr hyn sydd wedi newid yw, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, nad ydym wedi gallu recriwtio digon o staff nyrsio i gynnal y ward cleifion mewnol yn ddiogel ac mae hyn wedi bod ar gau dros dro ers 2020. Mae'r ward yma - Ward Panpwnton - wedi cael ei throi’n bedair ystafell ail-alluogi dros dro.

"Mae'r ystafelloedd hyn yn darparu amgylchedd i gleifion nad ydynt yn ddigon da i fynd adref ond nad oes angen iddynt fod mewn ysbyty acíwt (fel y rhai yn yr Amwythig neu Henffordd). Rydyn ni’n galw hwn yn wasanaeth 'camu-lawr'. Mae staff gofal preswyl o Dref-y-clawdd yn gofalu am y cleifion hyn gyda mewnbwn gan glinigwyr lleol."

Ers 2020 mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio'n galed i recriwtio nyrsys cofrestredig i ymuno â'r tîm cleifion mewnol yn Ysbyty Tref-y-clawdd. Ond yn anffodus, er ein bod wedi derbyn ychydig o ddiddordeb mewn rolau nyrsio cofrestredig, nid yw wedi cyrraedd y lefelau sydd eu hangen eto i redeg ward 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Ychwanegodd Mr Farnsworth: "Mae'n rhaid i mi bwysleisio ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygiad parhaus gwasanaethau i bobl yn Nhref-y-clawdd a Dwyrain Sir Faesyfed, a byddwn yn parhau i weithio gyda chi i sicrhau dyfodol disglair i Ysbyty Tref-y-clawdd.”

 

 

Ymweliad Arolygiaeth Gofal Cymru - disgwyl canlyniad yn fuan

Yn ddiweddar ymwelodd Arolygiaeth Gofal Cymru â chartref preswyl Cottage View fel rhan o'u gwaith arolygu arferol.

A nawr mae'r cartref, dan arweiniad y Rheolwr Gofal Preswyl, Christina Creemer, yn aros am ganlyniadau ei adroddiad arolygu. Mae'r adroddiad blaenorol ar Cottage View (o fis Medi 2022) ar gael yn www.arolygiaethgofal.cymru.

 

Marwolaeth cydweithiwr

Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth ein cydweithiwr Sue Weston yn ddiweddar. Roedd Sue wedi bod yn aelod o'r tîm arlwyo yn Nhref-y-clawdd am 14 mlynedd ac roedd pawb yn ei charu'n fawr. Hoffem estyn ein cydymdeimlad at deulu, ffrindiau a chydweithwyr Sue am eu colled ar yr adeg anodd hon.

 

Gweithdy – Gwell Gyda'n Gilydd/Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Cynaliadwy

Cymerodd cynrychiolwyr o grwpiau cymunedol ardaloedd Tref-y-clawdd a Llanandras ran mewn gweithdy a gynhaliwyd ar y cyd â Chyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ddiweddar yng nghanolfan gymunedol Tref-y-clawdd. 

 

Cynhaliwyd y sesiwn hanner diwrnod i rannu gwybodaeth a gofyn am adborth am sut mae'r cyngor a'r bwrdd iechyd yn ymateb i'r heriau presennol a chynyddol y mae'r sir yn eu hwynebu.  

 

 

Rhannu:
Cyswllt: