Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth y galon newydd ym Mhowys yn gweld cleifion yn derbyn triniaeth yn nes at adref

Mae gwasanaeth newydd ar gyfer cleifion sydd ag amheuaeth o broblemau'r galon wedi cael ei gyflwyno gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n gweld cleifion yn cael diagnosis a thriniaeth yn nes at adref.

Mae'r gwasanaeth eisoes yn brysur; ar hyn o bryd mae'r tîm yn derbyn tua 50 i 60 o atgyfeiriadau at y gwasanaeth bob mis yng ngogledd y sir yn unig. Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2024, o'r 458 o gleifion a aseswyd, dim ond 22 oedd angen eu cyfeirio at ymgynghorydd mewn ysbyty cyffredinol dosbarth. Roedd modd trin y gweddill mewn clinig neu gan eu meddyg teulu gyda meddyginiaethau a/neu adsefydlu. Mae hyn yn rhyddhau amser ymgynghorwyr mewn ysbytai cyffredinol dosbarth i ddelio â chleifion sydd angen ymyrraeth neu ymchwiliad pellach. Mae hefyd yn golygu y gall Powys fforddio gwasanaethau cardioleg o ansawdd gwell a buddsoddi mewn darparu staff lleol ac yn eu sgiliau.

Mae Dr Graham Thomas, meddyg teulu sy'n arbenigo mewn cardioleg, wedi ymuno â'r bwrdd iechyd i arwain tîm y Gwasanaeth Cardioleg Cymunedol. Mae'r tîm hwn yn cynnwys Uwch Ffisiolegydd Cardiaidd, Arbenigwyr Adsefydlu Cardiaidd, Nyrsys Arbenigol Cardiaidd yn ogystal ag Ymarferwyr Cynorthwyol.

Nododd: "Bydd y gwasanaeth yw gwella'r profiad a'r driniaeth i gleifion trwy ddarparu asesiadau cyflym, diagnosis, triniaeth yn lleol, ynghyd â llwybr atgyfeirio parhaus gydag ysbytai cyfagos ar gyfer ymchwiliadau ac ymyrraeth bellach, pan fo angen. Mae gennym systemau mwy diogel ar waith i bawb."

Esboniodd Dr Thomas: "Mae'r gwasanaeth yn cynnwys rhaglen adsefydlu ar gyfer cleifion â methiant y galon a chyflyrau cardiaidd eraill yn ogystal â chyngor mewn perthynas â lles, newidiadau i'w ffordd o fyw a gwasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn lleol."

I gefnogi'r gwasanaeth, mae'r clinigwyr yn defnyddio Ecocardiogram (Uwchsain Cardiaidd) ac yn cefnogi meddygon teulu i ddefnyddio offer Electrocardiogram symudol (gwisgo gartref). O'r 458 o gleifion a welwyd, derbyniodd 425 yr Ecocardiogram a derbyniodd 26 yr Electrocardiogram yn fewnol a llawer mwy trwy feddygfeydd.

Mae'r tîm yn gweithredu allan o ysbyty'r Drenewydd yn y gogledd tra yn ne'r sir mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan cyfagos yn darparu gwasanaeth yn Ysbyty Aberhonddu ac Ysbyty Sir Henffordd i gleifion Canolbarth Powys. Mae cynlluniau ar waith i gyflwyno gwasanaeth ar gyfer canol y sir (Llandrindod), yn fuan ac i gefnogi gwasanaeth Aberhonddu ymhellach.

Diwedd

Llun: Mae Dr Graham Thomas ac Uwch Ffisiolegydd Cardiaidd, Sian Evans, yn gwneud ecocardiogram ar glaf yn Ysbyty Sir Maldwyn yn y Drenewydd.

Rhannu:
Cyswllt: