Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau iechyd ym Mhowys dan bwysau sylweddol

Graffig testun: cefndir glas gyda thestun gwyn sy

Mae gwasanaethau sylfaenol, gofal cymunedol a chleifion mewnol ysbytai, gan gynnwys meddygfeydd, fferyllfeydd, optometreg a deintyddion ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, dan bwysau sylweddol sy’n cynyddu bob dydd.

Mewn apêl i'r boblogaeth leol, mae'r bwrdd iechyd yn gofyn i'r rhai sydd angen gofal meddygol neu gyngor i’w hunain neu anwyliad, i helpu sicrhau eu bod yn derbyn y lefel gywir o wasanaeth i fodloni eu hanghenion. 

Dywedodd Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae lefelau uchel o bresenoldeb o fewn meddygfeydd a fferyllfeydd ledled y sir, ynghyd â heriau sy’n wynebu ein staff proffesiynol a meddygol oherwydd absenoldeb salwch o ganlyniad i COVID-19, yn rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau'r bwrdd iechyd a gwasanaethau ambiwlans.

"Rydym yn gofyn i'n cymunedau lleol am gymorth. Rydym yn parhau i fod yn brysur iawn wrth i ni weithio i fodloni anghenion gofal iechyd yn ddiogel i’r rhai sydd â COVID-19 a’r rhai sydd heb.

"Mae ein timau Gofal Sylfaenol yn helpu cleifion yn ôl trefn blaenoriaeth glinigol, ond mae hyn yn golygu y bydd llawer o gleifion yn gorfod aros yn hirach nag yr hoffem. Os oes angen help meddygol arnoch, meddyliwch yn ofalus am y gwasanaethau rydych yn dewis.”

Os ydych yn sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, cymerwch gip olwg ar y gwiriwr symptomau ar-lein

neu ffoniwch GIG 111 os nad ydych yn siŵr pa help sydd angen arnoch.

Os oes gennych fân anaf, ewch i un o'n Hunedau Mân Anafiadau. Gall yr unedau hyn drin oedolion a phlant dros 2 oed, gydag anafiadau megis:

  • Mân glwyfau
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau
  • Brathiadau gan bryfed
  • Mân anafiadau i aelod y corff, y pen, neu'r wyneb
  • Corffynnau estron yn y trwyn neu’r glust

Mae Unedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog yn Aberhonddu; Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais; Ysbyty Coffa Llandrindod; ac Ysbyty Coffa Fictoria yn y Trallwng.

Mae pob Uned Mân Anafiadau ym Mhowys yn gweithredu ar sail "ffonio ymlaen llaw" ar hyn o bryd. Gofynnwn i bob claf ffonio cyn mynychu fel y gallwn roi asesiad a chyngor dros y ffôn i chi, a threfnu apwyntiad ar eich cyfer lle bo'n briodol. Mae'r trefniadau hyn ar waith i'ch cadw chi’n ddiogel a chadw ein staff yn ddiogel.

Rhifau cyswllt Unedau Mân Anafiadau yw:  

  • Aberhonddu: 01874 615800 
  • Ystradgynlais: 01639 844777 
  • Llandrindod: 01597 828735 
  • Y Trallwng: 01938 558919 neu 01938 558931 

Ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn un o'n Bwrdd Iechyd cyfagos dim ond os oes gennych salwch sy'n bygwth bywyd neu anaf difrifol, megis:

  • Anhawster wrth anadlu
  • Gwaedu difrifol
  • Poen ddifrifol a pharhaus yn y frest
  • Anafiadau trawma difrifol (e.e. o ddamwain car)
  • Yn anymwybodol
  • Strôc bosibl
  • Cyflwr dryslyd acíwt a ffitiau nad ydynt yn stopio

Yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y sir, mae eich Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys 24 awr agosaf wedi'u lleoli yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful; Ysbyty Treforys yn Abertawe; Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân; Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Maelor yn Wrecsam; Ysbyty Sir Henffordd; ac Ysbyty Brenhinol yr Amwythig. 

Mae’r wefan Fy Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn rhoi gwybodaeth fyw am ba mor brysur yw Unedau Damweiniau ac Achosion Brys a Mân Anafiadau ar unrhyw adeg.

Er eu bod hefyd dan bwysau, gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau galw heibio i drin a brysbennu mân anhwylderau heb apwyntiad. Gallwch ddod o hyd i'ch fferyllfa agosaf gan ddefnyddio tudalennau defnyddiol 'Gwasanaethau yn Agos Atoch Chi' GIG 111 Cymru .

Helpwch ni i’ch helpu chi drwy rannu’r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu, diolch.

 

Cyhoeddwyd: 07/04/2022

Rhannu:
Cyswllt: