Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymweld ag Ysbyty Bro Ddyfi

Mae pobl ym Mro Ddyfi yn elwa o well cyfleusterau iechyd a gofal diolch i adnewyddiad gwerth £15m yn Ysbyty Bro Ddyfi ym Machynlleth a agorwyd yn swyddogol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, ddydd Iau 25 Mai 2023.

Mae ailddatblygu'r ysbyty wedi bod yn bosib diolch i fuddsoddiad o £15m gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dod â Meddygfa Iechyd Bro Ddyfi a gwasanaethau cymunedol lleol at ei gilydd dan yr un to, gan helpu timau i weithio gyda'i gilydd er lles cleifion a chymunedau.

Wrth agor y cyfleuster newydd, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

"Roedd hi'n bleser agor ailddatblygiad Ysbyty Cymunedol Machynlleth Bro Ddyfi yn swyddogol a gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i'r gymuned leol.

"Mae hon yn enghraifft wych o sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i ail-lunio'r ffordd y mae gwasanaethau iechyd a lles cymunedol yn cael eu darparu er mwyn sicrhau gwell mynediad i feddygon, nyrsys, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn nes at adref."

Dywedodd Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

"Mae gan yr adeilad hwn hanes adnabyddus o wasanaethu pobl Machynlleth a Bro Ddyfi sy'n ymestyn dros 150 o flynyddoedd. Nawr, diolch i'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru, bydd yn parhau i gefnogi'r gymuned leol yn y dyfodol."

Mae partneriaeth rhwng asiantaethau a chyda'r gymuned wrth wraidd y datblygiad, ochr yn ochr â gwella amgylchedd gwasanaethau iechyd, mae ardaloedd ar gael i'w defnyddio gan sefydliadau gwirfoddol a phobl yn gyffredinol. Mae'n enghraifft berffaith o sut y gall adeilad alluogi gweithio’n integredig.

"Hoffwn ddiolch i bawb sy'n rhan o'r datblygiad pwysig hwn o’r GIG, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a phartneriaid cymunedol lleol, yn ogystal â thîm rheoli prosiect Pick Everard a Willmott Dixon a chydweithwyr drwy'r gadwyn gyflenwi adeiladu."

Symudodd Meddygfa Iechyd Bro Ddyfi i'w gartref newydd yn Ysbyty Bro Ddyfi ddiwedd mis Ebrill, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf mae deintyddiaeth gymunedol, podiatreg, iechyd meddwl oedolion a bydwreigiaeth wedi ymuno â nhw. Mae ffocws ar y celfyddydau a mannau awyr agored wedi arwain at ddatblygu gardd therapi a chomisiynu gwaith celf gan yr artistiaid Erin Hughes, Di Ford, Gemma Rose Green-Hope a Jim Bond, sy'n rhan o'r adeilad a'r tu allan yn y gerddi cymunedol.

Rhannu:
Cyswllt: