Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdai Gwybodaeth Ymarfer ar gyfer cyn Gofrestryddion Nyrsio y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Graffeg cartŵn o bedair nyrs gyda swigen lleferydd: Awyddus i Ddychwelyd i Nyrsio?

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnal nifer o Weithdai Gwybodaeth Ymarfer ar gyfer cyn Gofrestryddion Nyrsio y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a hoffai’r cyfle i ddychwelyd i ymarfer nyrsio.

Mae BIAP yn awyddus i gasglu mynegeion diddordeb cychwynnol gan y rhai a hoffai ddychwelyd i ymarfer gan ddefnyddio rhaglen newydd ac arloesol sy’n cyfuno addysg â chyflogaeth. Mae’r model cefnogol hwn yn cynnwys rhaglen hyfforddi 8–12 wythnos a ddarperir yn gyfan gwbl ar safle ym Mhowys; Bwrdd Iechyd sy’n cynnig addysg leol i’ch cefnogi i gyflawni eich nod o ddychwelyd i ymarfer nyrsio.

Hoffech chi wybod mwy?

Ymunwch â’n gweithdai gwybodaeth rhithwir sydd 1 awr o hyd, a gynhelir ar Microsoft Teams ddydd Mercher 3 Awst am 12.30pm neu 7.00pm, bydd y rhain yn cael eu cynnal gan Helen Farmer, Pennaeth Addysg Glinigol a Sara Alford, Pennaeth Adnoddau.


I gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch Clinical.Education.Powys@wales.nhs.uk gan nodi pa weithdy yr hoffech ymuno ag ef. Byddwch wedyn yn cael dolen dros e-bost i ymuno â’r gweithdy ac edrychwn ymlaen at eich cyfarfod!

 

Cyhoeddwyd: 25/07/2022

Rhannu:
Cyswllt: