Neidio i'r prif gynnwy

Hoffech chi roi adborth I ni ar y gwasanaeth rydych chi wedi'I gael ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys?

3 wyneb gyda gwahanol emosiynau, trist, hapus a niwtral

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ymrwymo i sicrhau bod pob preswylydd ym Mhowys yn cael gofal ardderchog.  Rydyn ni eisiau clywed gennych chi am eich profiadau o'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu a'u comisiynu - da a drwg. Diolch i chi am gymryd yr amser i rannu eich barn.

Hoffem glywed am eich profiad chi, boed hynny yn un o'n hysbytai ni, yn y gymuned, neu yn ystod eich ymweliad â Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth gyfagos.

Mae ymatebion yr arolwg yn ddienw a gellir eu cwblhau gyda’ch profiad eich hun neu ar ran aelod o’r teulu/ffrind/rhywun rydych chi'n gofalu amdano.

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys hefyd yn datblygu cyfres o arolygon penodol sy'n cwmpasu ein gwasanaethau a'r rhai o Fyrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau eraill, a bydd dolenni at y rhain ar gael yn fuan. 

Gweler y dolenni isod at ein harolygon cyffredinol.

Dolenni at yr Arolygon

NEU Cadwch lygad allan am y posteri goleuadau traffig yn yr ardaloedd gwasanaeth rydych chi’n ymweld ag, neu gofynnwch i Aelod o staff am roi adborth.

 

Rhyddhawyd: 29/11/2023

 

Rhannu:
Cyswllt: