Neidio i'r prif gynnwy

Mae Coronafeirws yn cylchredu ym Mhowys wledig

Mae cymunedau gwledig yn cael eu hannog i fod ar eu gwyliadwraeth o ran Coronafeirws a dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol i arafu lledaeniad y feirws.

Mae cyswllt wedi cael ei ddynodi rhwng y cynnydd diweddar mewn achosion ym Mhowys â’r cyswllt cymdeithasol mewn lleoliadau gwledig gan gynnwys safleoedd sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a ffermio, gan arwain at nifer o drigolion yn gorfod hunanynysu.

Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion ym Mhowys lle mai llwybr yr haint yw’r cyswllt cymdeithasol yn y gymuned ffermio. Mae’r achosion hyn wedi cael effaith arwyddocaol ar ein heconomi a hefyd ar addysg gan fod nifer o ddisgyblion yn gorfod hunanynysu fel cysylltiadau sydd wedi’u cadarnhau.

“Gan ein bod yn byw mewn ardal anghysbell neu wledig, gall fod yn demtasiwn i feddwl na fydd Coronafeirws yn ein cyrraedd.

“Ond, gall Coronafeirws effeithio ar unrhyw un. Mae pobl mewn pentrefi a chymunedau ffermio ym Mhowys yn dal y feirws, ac maen nhw’n ei drosglwyddo ymlaen i eraill.

“Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y cyfan y gallwn i atal lledaeniad y feirws o fewn Powys. Mae cyfyngu ar gyswllt gydag eraill tra’n cynnal cadw pellter cymdeithasol yn fesur allweddol ynghyd â gwisgo gorchuddion wyneb a golchi dwylo’n rheolaidd.” 

“Mae’n bwysig i ni oll gofio fod Coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad gwirioneddol i iechyd cyhoeddus ac mai’r ffordd orau o atal y gadwyn heintio yw dod i gysylltiad gyda llai o bobl. Mae angen i ni wneud y cyfan y gallwn i atal cynnydd pellach mewn achosion coronafeirws.”

Dywedodd John Davies, Llywydd NFU Cymru:

“Mae bygythiad Coronafeirws wedi bod i’r wyneb yn ein cymunedau gwledig ac rwy’n annog pawb i gydymffurfio â chadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo yn rheolaidd a thrwyadl/defnyddio glanedyddion dwylo a gwisgo gorchudd wyneb. Wrth fynd i farchnadoedd neu arwerthiannau da byw a thra’n cynnal unrhyw faterion busnes angenrheidiol, dilynwch y cyfarwyddyd Covid perthnasol a luniwyd gan weithredwyr unigol. Rwy’n erfyn ar bawb i gadw’n ddiogel.”

Prif symptomau coronafeirws yw:

  • tymheredd uchel: mae hyn yn golygu eich bod yn teimlo’n boeth i’ch cyffwrdd ar eich brest neu gefn (does dim angen mesur eich tymheredd)
  • peswch newydd, parhaus: golyga hyn eich bod yn pesychu llawer am fwy nag awr, neu dair pennod neu fwy o besychu mewn 24 awr (os ydych yn cael peswch fel arfer, gall hyn fod yn waeth na’r arfer)
  • colli eich synnwyr o arogli neu flasu neu newidiadau i’r synhwyrau hyn: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau yn arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer.

Mae o leiaf un o’r symptomau hyn gan y mwyafrif o bobl sydd â choronafeirws.

Os oes gennych unrhyw symptomau, sicrhewch eich bod chi a’ch prif aelwyd yn hunanynysu ar unwaith.

Gellir mynd ar-lein i archebu citiau profi yn y cartref, a chadw lle i gael profion trwy ffenestr car yn Aberhonddu a’r Drenewydd, trwy fynd ar https://gov.wales/apply-coronavirus-covid-19-test  neu trwy ffonio 119.

Gellir cadw lle i gael profion trwy ffenestr car yn Llanfair-ym-Muallt trwy gysylltu â chanolfan brofi Powys ar  powys.testing@wales.nhs.uk neu ffonio 01874 612228.

Gallwn oll helpu i ostwng lledaeniad coronafeirws trwy:

  • Aros adref
  • Golchi eich dwylo yn rheolaidd.
  • Cadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill.
  • Peidio â chwrdd ag unrhyw un sydd ddim yn byw gyda chi
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau, mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar gludiant cyhoeddus, heblaw bod esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny
  • Gweithio o gartref os y byddwch yn gallu.

“Rydym oll yn rhannu cyfrifoldeb personol dros reoli lledaeniad y feirws. Gall y sefyllfa newid yn gyflym iawn. Trwy ddilyn cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, gallwn helpu i gadw Powys yn ddiogel.”

Mae ein tîm Profi, Olrhain a Diogelu yma ym Mhowys yn gweithio’n ddiflino i sicrhau fod olrhain cysylltiadau gydag achosion positif, a bod profion yn cael eu cynnig i gysylltiadau sy’n symptomatig. Os ydych wedi cael eich dynodi fel cyswllt sydd wedi’i gadarnhau, bydd ein tîm olrhain cysylltiadau ym Mhowys yn eich ffonio ar y rhif 02921 961133.

Os bydd gweithiwr olrhain cysylltiadau yn eich ffonio, sicrhewch eich bod yn eu helpu gyda’u gwaith allweddol i Gadw Powys yn Ddiogel.

Rhannu:
Cyswllt: