Neidio i'r prif gynnwy

Maes parcio ysbyty Machynlleth i gau dros dro

Golygfa o stryd Machynlleth

Bydd maes parcio Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi Machynlleth ar gau dros dro ddydd Llun (6 Mawrth) fel y gall contractwyr gwblhau'r gwaith o uwchraddio'r cyfleuster hwn.

Gofynnir i staff a chleifion barcio mewn rhannau eraill o'r dref yn ystod y cyfnod cau dros dro am dair wythnos, er y bydd cyfleusterau cyfyngedig ar gyfer deiliaid bathodyn glas yn dal i gael eu darparu ar safle'r ysbyty. Gofynnwn i ymwelwyr eraill â'r ysbyty ddefnyddio'r prif faes parcio cyhoeddus yn y dref.

Bydd y gwaith sy'n cael ei gwblhau yn golygu maes parcio mwy gydag wyneb newydd a phwyntiau gwefru cerbydau trydan integredig a thirlunio newydd ar gyfer safle'r ysbyty. Mae'r gwaith hwn yn rhan o ailddatblygiad yr ysbyty gwerth £15m a ariennir gan Lywodraeth Cymru a fydd yn agor yn y gwanwyn.

Dywedodd Wayne Tannahill, Cyfarwyddwr Cyswllt Ystadau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Rydym yn cydnabod bod hyn am achosi anghyfleustra dros dro i'n cleifion a'n staff ond byddwn yn gofyn i chi fod yn amyneddgar gyda ni dros yr wythnosau nesaf. Pan fydd y maes parcio wedi'i orffen bydd yn welliant mawr ar ein cyfleuster blaenorol; maes parcio sy'n addas ar gyfer yr ysbyty sydd wedi'i ailddatblygu sydd i fod i agor yn y Gwanwyn."

 

Cyhoeddwyd: 03/03/2023

Rhannu:
Cyswllt: