Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau Covid

Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i barhau i fod ar eu gwyliadwriaeth o COVID-19 er bod gostyngiad mewn achosion yn y sir a llacio'r cyfyngiadau cenedlaethol ymhellach.

Mae nifer yr achosion yn y sir wedi gostwng o'r cyfraddau uchel iawn a welwyd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd gyda’r don Omicron ond maent yn parhau i fod yn uwch na 300 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth gyda mannau sy’n achosi problemau fel Aberhonddu wedi’u cofrestru.

Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd: "Er bod nifer yr achosion yn y sir yn gostwng ac rydym bellach yn is na chyfartaledd Cymru, mae gennym nifer sylweddol o heintiau newydd bob dydd o hyd.  Aberhonddu yn benodol sydd â'r nifer uchaf o achosion yng Nghymru ar hyn o bryd.  Rwy'n gofyn i breswylwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth ac i ddilyn y cyngor yr ydym i gyd wedi arfer ag ef dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynghylch defnyddio masgiau wyneb, cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, a sicrhau eu bod wedi'u brechu'n llawn."

Cwblhaodd Cymru'r broses o symud o Rhybudd Covid Lefel Lefel Dau i Sero y mis diwethaf a bydd rhagor o gyfyngiadau yn cael eu codi ymhellach ym mis Chwefror yn dilyn adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Bydd y newidiadau'n cynnwys llacio'r angen i ddangos Pás GIG i fynd i ddigwyddiadau ac yn nes ymlaen y gofyn i wisgo gorchudd wyneb.

 

Newidiadau i’w cyflwyno o 18 Chwefror

  • ddydd Gwener nesaf (18 Chwefror) – ni fydd yn ofyniad cyfreithiol mwyach i ddangos Pás Covid yng Nghymru i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do ac awyr agored, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd,
  • Ond mae lleoliadau a digwyddiadau yn gallu parhau i ddefnyddio Pás Covid os ydynt yn dymuno.

Newidiadau i’w cyflwyno o 28 Chwefror

  • O 28 February, bydd Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y gofyn i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ar wahân i fannau manwerthu, ar gludiant cyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.
  • Ni fydd yn rhaid i oedolion wisgo eu goruchuddion wyneb pan fyddant yn rhyngweithio â babanod a phlant bach mewn grwpiau babanod a phlant bach.
  • Bydd hunan-ynysu yn parhau i fod yn ffordd bwysig o dorri’r gadwyn o drosglwyddo’r feirws ac atal mwy o bobl rhag cael eu heintio.

Cadw Cymru’n ddiogel:

 

Cyhoeddwyd: 11/02/2022

Rhannu:
Cyswllt: